Ymgeiswyr yn sefyll yn is-etholiad y Cyngor Sir
8 Mai 2024
Bydd is-etholiad ward Rhiwcynon yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 4 Mehefin, 2024.
Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal i lenwi lle gwag ar y cyngor yn dilyn ymddiswyddiad Heulwen Hulme fis diwethaf (Ebrill).
Yr ymgeiswyr fydd:
- Richard Edward Amy - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Ann Jones - Plaid Cymru
- Richard Breese Jones - Annibynnol
- Oliver Lewis - Reform UK
- David Markinson - Annibynnol
- Rhodri Parfitt - Y Plaid Werdd
- Paul Wixey - Llafur Cymru
- John Yeomans - Ceidwadwyr Cymreig
Mae gan unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio hyd at ddydd Iau, 16 Mai, 2024 i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn. Er mwyn cofrestru i bleidleisio ewch i www.gov.uk/registertovote.
Dylai etholwyr nodi bod yn rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Gwener 17 Mai, 2024.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Gwener, 24 Mai, 2024. Ceir hyd i wybodaeth am geisiadau pleidlais trwy ddirprwy yma Etholiadau a phleidleisio
Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel