Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgeiswyr yn sefyll yn is-etholiad y Cyngor Sir

Image of County Hall

8 Mai 2024

Image of County Hall
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd wyth ymgeisydd yn sefyll mewn is-etholiad cyngor sir y mis nesaf.

Bydd is-etholiad ward Rhiwcynon yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 4 Mehefin, 2024.

Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal i lenwi lle gwag ar y cyngor yn dilyn ymddiswyddiad Heulwen Hulme fis diwethaf (Ebrill).

Yr ymgeiswyr fydd:

- Richard Edward Amy - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

- Ann Jones - Plaid Cymru

- Richard Breese Jones - Annibynnol

- Oliver Lewis - Reform UK

- David Markinson - Annibynnol

- Rhodri Parfitt - Y Plaid Werdd

- Paul Wixey - Llafur Cymru

- John Yeomans - Ceidwadwyr Cymreig

Mae gan unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio hyd at ddydd Iau, 16 Mai, 2024 i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn. Er mwyn cofrestru i bleidleisio ewch i www.gov.uk/registertovote.

Dylai etholwyr nodi bod yn rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Gwener 17 Mai, 2024.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Gwener, 24 Mai, 2024. Ceir hyd i wybodaeth am geisiadau pleidlais trwy ddirprwy yma Etholiadau a phleidleisio

Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu