Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyn Safle'r Red Dragon, Plantation Lane, Maesyrhandir, Y Drenewydd

Close Y Ddraig Goch

Mae cwblhau datblygiad tai Clos y Ddraig Coch yn gam sylweddol ymlaen o ran darparu tai cynaliadwy a fforddiadwy yn Y Drenewydd.

Mae'r prosiect hwn, a adeiladwyd ar hen safle tafarn y Ddraig Goch a chanolfan ieuenctid y Drenewydd, yn cynnwys 18 o anheddau ynni-effeithlon, yn amrywio o fyngalo tair ystafell wely i dŷ pum ystafell wely. Wedi'i reoli gan Gyngor Sir Powys, mae'r datblygiad £3.6 miliwn hwn yn mynd i'r afael â'r angen dybryd am lety anghenion cyffredinol, gan gynnig rhent fforddiadwy i ymgeiswyr ar Gofrestr Tai Cyffredin Powys.

Mae dyluniad y datblygiad yn cydymffurfio â WDQR ac mae'n pwysleisio cynaliadwyedd drwy ddefnyddio pren a dyfwyd yng Nghymru ar gyfer y waliau ffrâm ac inswleiddio ffeibr pren, gan osgoi deunyddiau amgylcheddol niweidiol fel blociau a polywrethan. Mae'r ffocws ar garbon ymgorfforedig a gweithredol isel yn amlwg yn y defnydd o bympiau gwres o'r aer ar gyfer gwresogi a dŵr poeth, sy'n fwy eco-gyfeillgar na systemau nwy traddodiadol. Yn ychwanegol, mae'r dewis o ddeunyddiau sydd ddim angen llawer o gynnal a chadw, isel mewn carbon, megis ffenestri pren wedi'u cladio ag alwminiwm a chyfarpar dŵr glaw wedi'u gorchuddio â phowdr alwminiwm, yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ymhellach.

Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a ddarparodd grant o £2.4 miliwn drwy eu Rhaglen Tai Arloesol. Mae eu cyfraniad wedi bod yn hanfodol wrth wireddu'r weledigaeth hon o dai eco-gyfeillgar a fforddiadwy.

Wrth i ni ddathlu cwblhau Clos y Ddraig Coch, edrychwn ymlaen at weld y datblygiad hwn yn ffynnu fel conglfaen i gymuned y Drenewydd. Rydym yn hyderus y bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu amgylchedd byw diogel, cyfforddus a chynaliadwy i'r holl breswylwyr. Diolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o wireddu'r prosiect hwn.

Cwblhawyd y Prosiect: Rhagfyr 2023

Agoriad swyddogol datblygiad tai cyngor newydd yn Y Drenewydd - Powys

What3words

///developed.degrading.engraving

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu