Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Ail-alluogi

reablement

Mae'r Gwasanaeth Ail-alluogi'n darparu'r lefel gymorth gywir er mwyn ichi gadw'r sgiliau angenrheidiol ac annibyniaeth i allu byw yn eich cartref eich hun, neu i benderfynu pa gymorth a gofal sydd ei angen arnoch yn barhaus.

Y diben yw darparu cymorth tymor byr i unigolion gadw neu adennill annibyniaeth, ar adegau o newid a phontio, sy'n hyrwyddo iechyd, llesiant, annibyniaeth, urddas a chynhwysiant cymdeithasol. Hefyd mae'r ffocws ar eich ail-gysylltu â'ch rhwydweithiau yn y gymuned.

Mae'r Tîm Ail-alluogi'n gweithio ochr yn ochr â thimau Therapi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n cynnwys Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion.

Gweler isod rhai o'r sylwadau gan bobl sydd wedi defnyddio cymorth Ail-alluogi:

'Mae'r Gwasanaeth Ail-alluogi wedi bod o gymorth mawr gyda'm cynnydd ac wedi rhoi llawer o hyder imi'.

'Mae'r staff yn effeithlon, cyfeillgar, prydlon. Buaswn yn gweld eisiau'r gwasanaeth os nad oedd ar gael'

'Byddaf yn cofio am weddill fy mywyd mor garedig mae pawb wedi bod, ac wedi treulio amser yn siarad gyda mi. Roeddwn yn ddiolchgar am yr hyn a wnaethoch, ac rydym wedi chwerthin hefyd.'

Beth yn union yw Ail-alluogi?

Ar ôl cael eich atgyfeirio, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i rywun o'r tîm ymweld â chi i wneud asesiad. Gall yr asesiad gynnwys aelodau eich teulu pe dymunir, a bydd yn olrhain yn union yr hyn y byddech yn hoffi ei wneud a sut gall y tîm eich helpu.

Fel arfer byddwn yn gweithio gyda chi am gyfnod rhwng pythefnos a chwe wythnos. Cyn inni orffen, byddwn yn cynllunio unrhyw gymorth arall sydd ei angen arnoch, ac yn sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer hynny.

Hwyrach y bydd angen offer neu addasiadau yn eich cartref er mwyn gallu byw'n annibynnol.   Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran ar offer ac addasiadau yn y cartref.

Oes rhaid imi dalu?

Does dim tâl ar gyfer cymorth ail-alluogi.  Os byddwch yn gymwys i dderbyn gofal parhaus yn dilyn cyfnod ail-alluogi, cewch eich asesu. Hwyrach y bydd tâl ar gyfer y gofal yn unol â Pholisi Taliadau'r Cyngor, os oes angen cymorth yn y cartref ar ôl diwedd y gwasanaeth ail-alluogi.

Gweler yr adran ar Asesu anghenion, cymhwysedd a chostau.

Sut mae cael cymorth?

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ystod eang o ffynonellau; mae'r canlynol yn debygol o fod yn fwyaf arwyddocaol:

  • Gofal Cymdeithasol · Gwasanaethau Gofal Sylfaenol·
  • Ward rhithiol· Gwasanaethau Ysbytai, ysbytai cymunedol ac ysbytai cyffredinol rhanbarth·
  • Darparwyr annibynnol·
  • Y Trydydd sector· Teulu a ffrindiau· Hunan-atgyfeiriad

Os byddai'n well gennych, gallwch ofyn am asesiad eich hunan drwy ddefnyddio'r botwm isod:

Gofyn am asesiad Gwneud atgyfeiriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal