Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol newydd yn agor yn Aberhonddu

Ysgol Golwg Pen y Fan logo

3 Medi 2024

Ysgol Golwg Pen y Fan logo
Mae'r cyngor sir wedi datgan bod ysgol gynradd newydd wedi agor ei drysau heddiw, gan ddechrau ar gyfnod newydd o addysg yn Aberhonddu.

Ysgol Golwg Pen y Fan yw'r ysgol ddiweddaraf i gael ei sefydlu gan Gyngor Sir Powys, yn dilyn uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Cradoc.

Mae sefydlu Ysgol Golwg Pen y Fan yn rhan o gynlluniau cyffrous Trawsnewid Addysg Cyngor Sir Powys ar gyfer dalgylch Aberhonddu.

I ddechrau, bydd yr ysgol newydd yn gweithredu ar y tri safle presennol cyn symud i adeilad newydd sbon yn Aberhonddu, a fydd yn darparu cyfleusterau newydd yr 21ain ganrif ar gyfer disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i lywodraethwyr, staff, rhieni a disgyblion Ysgol Golwg Pen y Fan a hoffwn ddymuno'r gorau iddynt wrth iddynt ddechrau ar y cyfnod newydd hwn.

"Rydym wedi ymrwymo i wella'r ddarpariaeth addysg a hawliau holl bobl ifanc Powys drwy gyflawni ein Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys. Mae sefydlu Ysgol Golwg Pen y Fan yn garreg filltir bwysig i gyflawni ein strategaeth.

"Edrychaf ymlaen at weithio gydag arweinwyr yr ysgol wrth i ni weithio gyda'n gilydd i wella profiad y dysgwr i bobl ifanc yn yr ardal."

I ddarllen Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 y cyngor a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu