Hunanasesiad Corfforaethol ar gael ar-lein
3 Medi 2024
Mae'r ddogfen, ar gyfer y cyfnod Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024, yn cynnwys tystiolaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau. Mae'n dangos sut mae'r cyngor yn:
- ymarfer ei swyddogaethau;
- defnyddio adnoddau mewn dull economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol;
- ac wedi'i ategu gan lywodraethu effeithiol.
Cafodd yr hunanasesiad corfforaethol ei gymeradwyo gan y Cabinet, ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024, yn dilyn adolygiad manwl gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r cyngor.
Mae'r adroddiad hunanasesu corfforaethol yn cynnig adlewyrchiad tryloyw a gonest o berfformiad y Cyngor dros y 12 mis diwethaf; gan ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda, beth sydd angen ei wella a'r hyn sydd angen ei wneud yn wahanol i bobl Powys.
Mae'r adroddiad hefyd yn cael ei lywio gan dystiolaeth allanol, megis argymhellion adroddiadau archwilio ac arolygiadau rheoleiddio eraill. Mae canfyddiadau'r hunanasesiad corfforaethol yn llywio cyfres o gamau gwella. Gellir gweld manylion y rhain yn yr adroddiad gyda'r bwriad o'u cyflawni dros y 12 mis nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: "Mae'n ofynnol i ni ddatblygu a chyhoeddi adroddiad hunanasesu unwaith ym mhob cyfnod ariannol.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae'r cyngor yn cyflawni ar lefel strategol a sut mae prosesau'n cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn gweithio'n gywir.
"Mae hon yn broses fyfyriol, ac mae arfer da a meysydd i'w gwella wedi'u nodi a byddant yn cael eu defnyddio i wella sut mae'r cyngor yn gweithio, ac yn y pen draw, yn cefnogi pobl Powys.
"Mae hwn hefyd yn adroddiad i bobl Powys, a byddem yn falch o gael barn pawb ar ba mor effeithiol y maen nhw'n teimlo ry'n ni fel eich cyngor."
Mae cynnal yr ymarfer hunanasesu corfforaethol blynyddol a chadw golwg ar berfformiad hefyd yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ran 6 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i Adroddiad Hunanasesu Corfforaethol Blynyddol.
Mae adborth yn bwysig i ni, felly os hoffech gymryd rhan neu ddweud wrthym beth yw eich barn am yr hunanasesiad corfforaethol neu berfformiad y cyngor yn gyffredinol, rhowch wybod i ni drwy e-bostio business_intelligence@powys.gov.uk.
I gael gwybod sut i gymryd rhan mewn ffyrdd eraill neu i roi eich barn ar feysydd eraill o waith y Cyngor, ewch i Cymryd Rhan.