Toglo gwelededd dewislen symudol

Hunanasesiad Corfforaethol ar gael ar-lein

Image of Stronger, Fairer, Greener branding

3 Medi 2024

Image of Stronger, Fairer, Greener branding
Mae hunanasesiad corfforaethol blynyddol diweddaraf Cyngor Sir Powys ar gael i'w weld ar-lein.

Mae'r ddogfen, ar gyfer y cyfnod Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024, yn cynnwys tystiolaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau.  Mae'n dangos sut mae'r cyngor yn:

  • ymarfer ei swyddogaethau;
  • defnyddio adnoddau mewn dull economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol;
  • ac wedi'i ategu gan lywodraethu effeithiol.

Cafodd yr hunanasesiad corfforaethol ei gymeradwyo gan y Cabinet, ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024, yn dilyn adolygiad manwl gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r cyngor.

Mae'r adroddiad hunanasesu corfforaethol yn cynnig adlewyrchiad tryloyw a gonest o berfformiad y Cyngor dros y 12 mis diwethaf; gan ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda, beth sydd angen ei wella a'r hyn sydd angen ei wneud yn wahanol i bobl Powys.

Mae'r adroddiad hefyd yn cael ei lywio gan dystiolaeth allanol, megis argymhellion adroddiadau archwilio ac arolygiadau rheoleiddio eraill.  Mae canfyddiadau'r hunanasesiad corfforaethol yn llywio cyfres o gamau gwella.  Gellir gweld manylion y rhain yn yr adroddiad gyda'r bwriad o'u cyflawni dros y 12 mis nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: "Mae'n ofynnol i ni ddatblygu a chyhoeddi adroddiad hunanasesu unwaith ym mhob cyfnod ariannol.

"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae'r cyngor yn cyflawni ar lefel strategol a sut mae prosesau'n cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn gweithio'n gywir.

"Mae hon yn broses fyfyriol, ac mae arfer da a meysydd i'w gwella wedi'u nodi a byddant yn cael eu defnyddio i wella sut mae'r cyngor yn gweithio, ac yn y pen draw, yn cefnogi pobl Powys.

"Mae hwn hefyd yn adroddiad i bobl Powys, a byddem yn falch o gael barn pawb ar ba mor effeithiol y maen nhw'n teimlo ry'n ni fel eich cyngor."

Mae cynnal yr ymarfer hunanasesu corfforaethol blynyddol a chadw golwg ar berfformiad hefyd yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ran 6 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i Adroddiad Hunanasesu Corfforaethol Blynyddol.

Mae adborth yn bwysig i ni, felly os hoffech gymryd rhan neu ddweud wrthym beth yw eich barn am yr hunanasesiad corfforaethol neu berfformiad y cyngor yn gyffredinol, rhowch wybod i ni drwy e-bostio business_intelligence@powys.gov.uk.

I gael gwybod sut i gymryd rhan mewn ffyrdd eraill neu i roi eich barn ar feysydd eraill o waith y Cyngor, ewch i Cymryd Rhan.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu