Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cyfnod newydd yn dechrau i Ysgol Robert Owen

Image of Ysgol Robert Owen's new school building

12 Medi 2024

Image of Ysgol Robert Owen's new school building
Mae cyfnod newydd wedi dechrau ar gyfer ysgol arbennig yng ngogledd Powys wedi i ddisgyblion a staff symud i'w hadeilad newydd yr wythnos hon.

Adeilad ysgol newydd Ysgol Robert Owen y Drenewydd (Ysgol Cedewain gynt) yw'r prosiect diweddaraf sydd wedi'i gwblhau gan Gyngor Sir Powys o dan ei Raglen Trawsnewid Addysg.

Fel rhan o'r rhaglen, mae'r cyngor eisoes wedi adeiladu un ysgol uwchradd newydd a 10 ysgol gynradd a hefyd wedi gwneud gwaith ailfodelu mewn ysgol gynradd ac ysgol uwchradd.

Codwyd yr adeilad newydd sbon ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan Wynne Construction ar ran y cyngor. Darparwyd 75% o'r cyllid ar gyfer y prosiect gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a'r 25% arall gan y cyngor.

Mae'r adeilad newydd fodern wedi disodli'r adeilad gwael iawn oedd yn yr ysgol bresennol, ac mae'n cynnwys cyfleusterau ar gyfer dysgwyr bregus iawn, gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd a ffisiotherapi a gardd yn ogystal â chaffi cymunedol.

Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael eu datblygu ar y tir ar safle'r hen adeiladau ysgol sydd bellach yn wag.

Bydd staff yn gallu addysgu mewn amgylchedd dysgu sy'n addas i'r diben, a gall rhieni fod yn hyderus bod eu plant yn cael eu cefnogi yn y cyfleusterau a'r llety gorau.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd bod disgyblion a staff Ysgol Robert Owen wedi symud i'w hadeilad ysgol newydd gwych.

"Hoffwn ddiolch i gymuned yr ysgol am eu hamynedd wrth i'r cyfleuster hwn gael ei adeiladu. Hoffwn hefyd gydnabod mewnbwn yr ysgol i'r cynllun i sicrhau ei fod yn cael ei adeiladu i leihau'r effaith ddylunio ar ddisgyblion.

"Mae'r cyngor wedi darparu cyfleuster o'r radd flaenaf drwy'r prosiect hwn ar gyfer dysgwyr mwyaf bregus y sir.

"Mae'r adeilad newydd hwn yn rhan bwysig o'n Strategaeth i Drawsnewid Addysg ym Mhowys a bydd yn darparu amgylchedd lle gall staff addysgu ffynnu, rhoi cyfleusterau sy'n diwallu anghenion  dysgwyr bregus, gan roi'r cyfle iddynt  elwa ohonynt a'u galluogi i fwynhau dysgu."

I ddarllen Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 y cyngor a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu