Cyfnod newydd yn dechrau i Ysgol Robert Owen
12 Medi 2024
Adeilad ysgol newydd Ysgol Robert Owen y Drenewydd (Ysgol Cedewain gynt) yw'r prosiect diweddaraf sydd wedi'i gwblhau gan Gyngor Sir Powys o dan ei Raglen Trawsnewid Addysg.
Fel rhan o'r rhaglen, mae'r cyngor eisoes wedi adeiladu un ysgol uwchradd newydd a 10 ysgol gynradd a hefyd wedi gwneud gwaith ailfodelu mewn ysgol gynradd ac ysgol uwchradd.
Codwyd yr adeilad newydd sbon ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan Wynne Construction ar ran y cyngor. Darparwyd 75% o'r cyllid ar gyfer y prosiect gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a'r 25% arall gan y cyngor.
Mae'r adeilad newydd fodern wedi disodli'r adeilad gwael iawn oedd yn yr ysgol bresennol, ac mae'n cynnwys cyfleusterau ar gyfer dysgwyr bregus iawn, gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd a ffisiotherapi a gardd yn ogystal â chaffi cymunedol.
Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael eu datblygu ar y tir ar safle'r hen adeiladau ysgol sydd bellach yn wag.
Bydd staff yn gallu addysgu mewn amgylchedd dysgu sy'n addas i'r diben, a gall rhieni fod yn hyderus bod eu plant yn cael eu cefnogi yn y cyfleusterau a'r llety gorau.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd bod disgyblion a staff Ysgol Robert Owen wedi symud i'w hadeilad ysgol newydd gwych.
"Hoffwn ddiolch i gymuned yr ysgol am eu hamynedd wrth i'r cyfleuster hwn gael ei adeiladu. Hoffwn hefyd gydnabod mewnbwn yr ysgol i'r cynllun i sicrhau ei fod yn cael ei adeiladu i leihau'r effaith ddylunio ar ddisgyblion.
"Mae'r cyngor wedi darparu cyfleuster o'r radd flaenaf drwy'r prosiect hwn ar gyfer dysgwyr mwyaf bregus y sir.
"Mae'r adeilad newydd hwn yn rhan bwysig o'n Strategaeth i Drawsnewid Addysg ym Mhowys a bydd yn darparu amgylchedd lle gall staff addysgu ffynnu, rhoi cyfleusterau sy'n diwallu anghenion dysgwyr bregus, gan roi'r cyfle iddynt elwa ohonynt a'u galluogi i fwynhau dysgu."
I ddarllen Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 y cyngor a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg