Toglo gwelededd dewislen symudol

Croesawu ceisiadau i ysgolion uwchradd

Image of secondary school pupils in uniform running

16 Medi 2024

Image of secondary school pupils in uniform running
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud ei fod nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer plant fydd yn mynd i ysgol uwchradd ym mis Medi 2025.

Mae gan rieni neu ofalwyr plant blwyddyn chwech tan ddydd Gwener 8 Tachwedd 2024 i anfon cais.

Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn annog pob rhiant/gofalwr i lenwi'r ffurflen gais yma cyn gynted â phosibl er mwyn cael lle mewn ysgol uwchradd fis Medi 2025.

"Os na fydd wedi'i llenwi mewn pryd, yna mae'n bosibl y bydd hyn yn bygwth lle eich plentyn yn yr ysgol mae wedi'i dewis."

Dylai rhieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol erbyn dydd Gwener 8 Tachwedd 2024.

Os nad ydych yn gallu gwneud hynny ar-lein, cysylltwch â admissions@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu