Casgliadau ailgylchu a gwastraff dros y Nadolig
11 Rhagfyr 2024
Bydd ein criwiau gwastraff ac ailgylchu yn treulio gwyliau banc y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd gyda ffrindiau a theulu, sy'n golygu y bydd newid i'r diwrnodau casglu arferol dros gyfnod y Nadolig.
Ni fydd casgliadau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan na Dydd Calan.
Wythnos Nadolig
Bydd y diwrnodau casglu ar gyfer hanner cyntaf wythnos y Nadolig (tan ddydd Mercher 25 Rhagfyr) un diwrnod yn gynt na'r arfer. Bydd y casgliadau ar gyfer ail hanner yr wythnos (o ddydd Iau 26 Rhagfyr) un diwrnod yn hwyrach na'r arfer, gyda chriwiau'n gweithio ar ddydd Sul 22 Rhagfyr a dydd Sadwrn 28 Rhagfyr.
Diwrnod casglu arferol | Diwrnod casglu arfaethedig |
Llun 23 Rhag | Sul 22 Rhag |
Maw 24 Rhag | Llu 23 Rhag |
Mer 25 Rhag | Maw 24 Rhag |
Iau 26 Rhag | Gwe 27 Rhag |
Gwe 27 Rhag | Sad 28 Rhag |
Wythnos y Flwyddyn Newydd
Ni fydd unrhyw newid i gasgliadau yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf o wythnos y Flwyddyn Newydd, gyda chasgliadau un diwrnod yn hwyrach na'r arfer o 1 Ionawr, gyda chriwiau'n weather ddydd Sadwrn 4 Ionawr.
Diwrnod casglu arferol | Diwrnod casglu arfaethedig |
Llu 30 Rhag | Llu 30 Rhag |
Maw 31 Rhag | Maw 31 Rhag |
Mer 1 Ion | Iau 2 Ion |
Iau 2 Ion | Gw 3 Ion |
Gwe 3 Ion | Sad 4 Ion |
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gwblhau'r holl gasgliadau, yn ôl y bwriad, fodd bynnag, os nad ydych wedi derbyn casgliad erbyn 5pm, edrychwch ar-lein am ddiweddariad - (https://cy.powys.gov.uk/Diwrnodcasglubiniau).
Bydd holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar gau ar Ddydd Nadolig (25 Rhagfyr), Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr) a Dydd Calan (1 Ionawr). Bydd canolfannau ar agor fel arfer ar adegau eraill, gwiriwch ar-lein am fanylion llawn yr amseroedd agor arferol - https://cy.powys.gov.uk/sbwrielacailgylchu
"Gyda chasgliadau wedi'u trefnu drwy gydol y Nadolig, rydym yn annog aelwydydd i ddefnyddio'r gwasanaeth ac arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o'u gwastraff o'r cartref â phosib." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Rydym i gyd yn cynhyrchu mwy o wastraff nag arfer dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ond gellir ailgylchu'r rhan fwyaf ohono - ffoil tun, bwyd, jariau gwydr a photeli, coed Nadolig go iawn, cardiau Nadolig plaen a phapur lapio, batris, potiau plastig a photeli - gallwn ni i gyd wneud ein rhan i sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael ei ailgylchu."
Edrychwch ar ein gwefan a chadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth sydd eu hangen oherwydd tywydd gaeafol garw neu unrhyw amgylchiadau eraill nas rhagwelwyd.
Defnyddiwch y gwiriwr diwrnod bin ar-lein i ddod o hyd i'ch dyddiadau casglu diwygiedig dros gyfnod y gwyliau - https://cy.powys.gov.uk/sbwrielacailgylchu