Toglo gwelededd dewislen symudol

Diweddaru rhwydwaith Powys o fannau cynnes

A person keeping warm with a hot drink and a blanket

16 Rhagfyr 2024

A person keeping warm with a hot drink and a blanket
Mae sefydliadau sy'n gallu darparu gofod cynnes i bobl y gaeaf hwn yn cael eu hannog i wneud yn siŵr bod eu lle wedi'i restru ac i ystyried gwneud cais am grant o hyd at £1,000.

Mae Cyngor Sir Powys am ddiweddaru ei gofrestr o leoedd a all gynnig croeso cartrefol a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden tra'n cadw'n gynnes i drigolion sy'n cael trafferth talu costau byw.

Gall unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol sydd â diddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith ddarganfod mwy a chyflwyno eu manylion ar wefan y cyngor: Creu mannau cynnes i Bowys

Rydym am ddiweddaru ein rhestr o leoedd hygyrch, diogel a chynnes yn ein cymunedau, a sefydlwyd yn llwyddiannus ddwy flynedd yn ôl," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Tecach. "Gallant helpu i atal yr oerfel, ac unigrwydd, i rai o'n trigolion mwyaf agored i niwed felly, os ydych chi'n meddwl y gallwch chi helpu eich cymuned, cofrestrwch eich manylion ac ystyriwch wneud cais am grant."

Gellir defnyddio'r grantiau i sefydlu neu ailsefydlu gofod cynnes neu wella gofod cynnes presennol.

Mae cyfanswm o £1.5 miliwn wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i gynghorau ledled Cymru ar gyfer y gwaith hwn, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sefydlu gofod cynnes ym Mhowys, e-bostiwch: costofliving@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu