Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad
Darperir gan Autism Wellbeing
Cynulleidfa Darged: Staff Sector Gwasanaethau Oedolion a Phlant / Timau Gwaith Cymdeithasol / Darparwyr / Gofalwyr Di-dâl
Wedi'i gyflwyno: Rhithwir drwy TEAMS
Nod:
Nod y cwrs hwn yw gwella'r dulliau a ddefnyddir gan holl staff gofal a gwasanaethau i gefnogi pobl sydd mewn perygl o hunanladdiad.
Deilliannau Dysgu:
Byddwch yn hyderus i drafod hunanladdiad gyda rhywun sydd mewn perygl. Nodi rhybuddion risg a datblygu cynlluniau diogelwch i ddiogelu a chefnogi. Addysgu a chefnogi'r sgiliau rhyngbersonol sydd eu hangen i ymyrryd â pherson sydd mewn perygl o hunanladdiad. Bod yn ymwybodol o wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael i berson sydd mewn perygl a'u cyfeirio atynt. Cydnabod pwysigrwydd atal hunanladdiad, cefnogi bywyd a hunanofal.
Deall ôl-effeithiau cymdeithasol rhywun sydd wedi ceisio hunanladdiad neu sydd mewn perygl o hunanladdiad.
Dyddiadau:
15 Mai 2025, 9.30am - 4.30pm
18 Medi 2025, 9.30am - 4.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses