Eiddo sydd wedi'u meddiannu
Eiddo â dim ind myfyrwyr neu nyrsys dan hyfforddiant yn byw ynddo
Os mai dim ond myfyriwr / myfyrwyr amser llawn sy'n byw yn yr eiddo, bydd wedi'i eithrio.
Diffiniad o fyfyriwr:
- Rhywun sydd wedi ymgofrestru ar gwrs addysg amser llawn. Rhaid i'r cwrs bara am o leiaf un flwyddyn a rhaid i'r myfyriwr fynychu'r cwrs am o leiaf 24 wythnos y flwyddyn ac astudio am o leiaf 21 awr yr wythnos.
- Rhywun dan 20 oed ar gwrs sy'n para am o leiaf 3 mis calendr ac sy'n astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos. Rhaid i'r cwrs beidio â bod yn gwrs addysg uwch. Nid yw dosbarthiadau nos a chyrsiau gohebol yn gymwys.
Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Eiddo â dim ind myfyrwyr neu nyrsys dan hyfforddiant yn byw ynddo