Eiddo sydd wedi'u meddiannu
Rhai sy'n Gadael Gofal
Gall eithriad Treth y Cyngor ddigwydd pan fydd preswylfa yng Nghymru ym meddiant un neu ragor o 'rai sy'n gadael gofal' a lle bydd pob preswylydd naill ai yn 'rai sy'n gofal', yn 'unigolion perthnasol', neu'n 'unigolion â nam meddyliol difrifol'.
Mae "rhai sy'n gadael gofal" yn golygu rhai sydd -
- yn 24 neu'n iau; ac
- yn unigolion ifanc categori 3 yn ôl diffiniad adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2) 2014
Mae "unigolion perthnasol" yn golygu yr ystyr a roddir ym mharagraff 2(a) Dosbarth N;
- rhai sydd â buddiant rhydd-ddaliad neu les-ddaliad mewn unrhyw ran o'r breswylfa neu'r breswylfa gyfan, neu mewn trwydded i feddiannu unrhyw ran o'r breswylfa neu'r breswylfa gyfan
Mae "unigolion â nam meddyliol difrifol" yn golygu yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 Atodlen 1 y Ddeddf;"
(1) Rhaid i unigolion gael eu diystyru at ddibenion gostyngiad ar ddiwrnod penodol os —
- ar y diwrnod dan sylw mae ganddynt nam meddyliol difrifol;
- o ran unrhyw gyfnod sy'n cynnwys y diwrnod y nodir mewn tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig ei fod, neu'n debygol o fod yn dioddef nam meddyliol difrifol; ac
- o ran y diwrnod y mae'n cyflawni'r cyfryw amodau a ragnodwyd trwy orchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
(2) At ddibenion y paragraff yma, mae gan unigolion nam meddyliol difrifol os oes ganddynt nam difrifol ar eu deallusrwydd a'u gweithredu cymdeithasol (beth bynnag sy'n achosi hyn) sy'n ymddangos fel pe bai'n barhaol.
(3) Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, trwy orchymyn, ddisodli'r diffiniad yn is-baragraff (2) sydd am y tro yn effeithiol at ddibenion y paragraff yma.
Gwneud cais am eithriad rhai sy'n gadael gofal Treth y Cyngor: Disgownt / Eithriadau - Pobl Sy'n Gadael Gofal