Eiddo nad yw'n addas byw ynddo
Eiddo sy'n anaddas i fyw ynddynt (Adnewyddu tŷ/fflat neu drosi ysgubor / fferm)
Bydd yr esemptiad yn berthnasol i eiddo na ellir byw ynddo am uchafswm o 12 mis. Ar ôl i'r esemptiad hwn ddod i ben, gall premiwm treth gyngor fod yn berthnasol.
Rhaid i'r eiddo fod yn y broses o gael ei atgyweirio neu fod angen gwaith atgyweirio mawr arno i'w wneud yn lle y gellir byw ynddo neu fod angen neu yn y broses o gyflawni newid strwythurol. Gall Swyddog Ymweld archwilio'r eiddo cyn y gellir dyfarnu'r esemptiad.
Newid Strwythurol
Rhaid i hyn gynnwys newid yr annedd mewn rhyw ffordd ffisegol o'r hyn yr oedd i rywbeth gwahanol.
Er enghraifft, ail-leoli waliau mewnol ac ychwanegu estyniad sy'n cynnwys bwrw trwy waliau allanol.
Gwaith Atgyweirio Mawr
Rhaid i'r gwaith atgyweirio fod yn ofynnol i wneud yr eiddo yn lle y gellir byw ynddo, a bydd maint yr atgyweiriadau hynny yn penderfynu a ydynt yn cael eu hystyried yn 'fawr'.
Fel arfer, ystyrir bod atgyweiriadau mawr yn rhai sy'n effeithio ar ffabrig yr eiddo, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Atgyweiriadau mawr i'r to neu wal allanol
- Ailadeiladu cyrn simdde diffygiol
- Gwaith sylfaen a gwaith sy'n ymwneud â waliau cynnal
- Difrod tân neu lifogydd mawr
- Atgyweiriadau mawr i loriau a distiau
- Annedd sydd wedi'i fwrw nôl i'w gragen gan gynnwys tynnu'r rhan fwyaf o waliau mewnol (Nid Waliau Postyn Pared / Pared)
Byddwn yn edrych ar a oedd angen gwaith atgyweirio mawr ar yr eiddo cyn dechrau'r gwaith yn hytrach nag o ganlyniad i'r gwaith.
Os yw eiddo, er enghraifft, yn dod yn lle na ellir byw ynddo oherwydd bod yr ystafell ymolchi a'r gegin wedi'u tynnu i gael rhai newydd, ni fyddai hyn yn golygu bod angen 'atgyweirio', felly nid yw'r eiddo yn cael ei ystyried yn lle na ellir byw ynddo.
Tystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol i gefnogi'r cais (ond heb fod yn gyfyngedig i)
- Amserlen y gwaith sy'n dangos yr holl waith y disgwylir ei gwblhau (nid dyfynbris). Rhaid iddo ddangos tystiolaeth glir bod y gwaith wedi / neu y disgwylir iddo gael ei wneud.
- Rhaid iddo hefyd fod yn amserlen y gwaith a ddarperir gan yr adeiladwr a fydd yn ymgymryd â'r gwaith neu sydd wedi cwblhau'r gwaith.
- Adroddiad syrfewyr. Dylai adroddiad y syrfewyr, ar y cyd ag amserlen y gwaith, ddangos tystiolaeth bod angen gwaith atgyweirio mawr neu waith newidiadau strwythurol i wneud yr annedd yn addas i'r diben.
- Derbynebau ar gyfer yr holl waith a wnaed neu i'w wneud os ydych yn ymgymryd â'r gwaith eich hun
- Unrhyw rif cais cynllunio
- Unrhyw rif cais rheoli adeiladu ynghyd ag enw'r swyddog rheoli adeiladu a manylion cyswllt
- Ffotograffau
