Toglo gwelededd dewislen symudol

Eiddo nad yw'n addas byw ynddo

Eiddo heb ddodrefns

Os nad yw eiddo wedi'i ddodrefnu, yna gall fod yn esempt rhag y Dreth Gyngor am hyd at 6 mis.

Ar ôl i'r esemptiad hwn ddod i ben, bydd yr eiddo yn atebol am y tâl treth gyngor llawn. Os yw'r eiddo yn parhau heb ei feddiannu ac heb ei ddodrefnu am gyfnod parhaus o flwyddyn, gall premiwm treth gyngor fod yn berthnasol.

Mae'r esemptiad hwn ar gyfer eiddo sydd 'heb ei feddiannu ac heb ei ddodrefnu'. Ni ddylai fod dodrefn ar wahân i nwyddau gwyn a ffitiadau (megis cypyrddau dillad adeiledig).

Mae'r esemptiad yn para am ddim mwy na 6 mis.

Mae'r esemptiad yn dechrau o'r dyddiad y mae'r eiddo yn dod heb ei feddiannu ac heb ei ddodrefnu.

 

Ar ôl y dyfarniad

Byddwn yn archwilio'r eiddo ar ôl dyfarnu'r esemptiad. Os oes unrhyw eitemau o ddodrefn, bydd yr esemptiad yn cael ei dynnu.

Ar ddiwedd y cyfnod esempt mae tâl o 100% yn daladwy am 6 mis. Ar ôl hyn, bydd Premiwm Treth Gyngor o 100% yn cael ei gymhwyso ar ben y gyfradd safonol o 100%. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu 200% o'r Dreth Gyngor os yw'r eiddo yn parhau heb ei feddiannu.

Os bydd yr eiddo yn newid dwylo yn ystod y cyfnod esempt, dim ond gweddill y cyfnod esempt sydd gan y trethdalwr cyngor newydd hawl iddo.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Hawlio Eithriad

Rhannwch y dudalen hon