Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Arwyr Casglu Sbwriel yn glanhau Powys

Image of volunteers litter picking in Treowen

10 Ebrill2025

Image of volunteers litter picking in Treowen
 Mae arwyr casglu sbwriel ledled Powys yn dathlu ar ôl 'glanhad' gwanwyn helaethaf a mwyaf llwyddiannus y sir. 

Rhwng 21 Mawrth a 6 Ebrill, cymerodd 671 o wirfoddolwyr ran mewn 55 o ddigwyddiadau glanhau, gan gasglu 622 o fagiau sbwriel. Dyma ymdrech tîm go iawn, gyda 128 o sefydliadau yn cymryd rhan ochr yn ochr ag unigolion a grwpiau cymunedol. 

Trefnwyd y casglu sbwriel fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru Cadwch Gymru'n Daclus, a oedd yn annog pobl ledled Cymru i lanhau eu cymdogaethau lleol a'u hoff fannau harddwch. 

Roedd y 622 bag yn cynnwys poteli plastig a gwydr wedi'u taflu yn bennaf, caniau, lapwyr bwyd, fêps, bagiau baw cŵn a sbwriel cyffredinol. Ymhlith y darganfyddiadau mwy anarferol roedd teganau meddal, ymbarél, troli siopa a phecyn creision mewn cyflwr da o 1992!

Y gobaith yw y bydd llwyddiant Gwanwyn Glân Cymru yn ysbrydoli pobl eraill i ofalu am eu hamgylchedd lleol. Gyda 12 Hyb Casglu Sbwriel ym Mhowys yn darparu offer i'w fenthyca am ddim, ni fu cymryd rhan yn haws erioed. 

Mae Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach, y Cynghorydd Jackie Charlton, yn gwirfoddoli'n rheolaidd gyda'i grŵp lleol, Llangatwg Litter Pickers. Dywedodd y Cynghorydd Charlton:

"Fel casglwr sbwriel brwd fy hun, rydw i wedi cael fy mhlesio'n fawr gan y brwdfrydedd a ddangoswyd gan gymunedau ledled Powys yn ystod Gwanwyn Glân Cymru eleni. Hoffwn ddiolch i bob gwirfoddolwr sydd wedi cymryd rhan, yn ogystal â'n tîm gwastraff anhygoel a'n partneriaid sydd wedi gwneud y digwyddiadau'n bosibl. 

"Eleni fe wnaethom ddyblu nifer y digwyddiadau casglu sbwriel o 2024, gyda gwirfoddolwyr gyda'i gilydd yn neilltuo dros 830 awr i lanhau ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y gallwn gynnal y momentwm i sicrhau bod ein sir yn cael ei chadw'n lân, yn wyrdd ac yn brydferth trwy gydol y flwyddyn. Hoffwn annog pawb i ymweld â'u Hwb Casglu Sbwriel agosaf, gafael mewn casglwr sbwriel a chymryd rhan!"

Dywedodd Jodie Griffiths, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n cefnogi casglu sbwriel ledled Powys: "Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Cymru eleni. Er ei fod yn ofidus gweld rhai pobl yn diystyru ein hardal hardd, mae bob amser yn anhygoel gweld eraill yn rhoi eu hamser i gyd-weithio i oresgyn hyn. 

"Rydym yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli rhagor o bobl i gymryd rhan gyda chasglu sbwriel trwy gydol y flwyddyn. Does dim rhaid iddo gymryd llawer o amser, ac mae'r Hybiau Casglu Sbwriel yn ei gwneud hi'n hawdd cael gafael ar y cit cywir am ddim."

Os ydych chi'n teimlo wedi'ch ysbrydoli, beth am gymryd rhan a benthyg offer casglu sbwriel gan un o Hybiau casglu sbwriel Powys. I ddod o hyd i'ch Hwb agosaf, ewch i: Pecyn codi sbwriel

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu