Adeilad newydd ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch yn derbyn cymeradwyaeth derfynol

7 Mai 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol newydd i gymryd lle adeilad presennol Ysgol Neuadd Brynllywarch.
Mae'r ysgol, sydd wedi'i lleoli yng Ngheri ger y Drenewydd, yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 8 a 19 oed, sydd ag ystod eang o anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol cymhleth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes llawn, a gyflwynwyd ar ôl i Gabinet y cyngor roi'r golau gwyrdd ym mis Chwefror. Dyma'r olaf o'r gyfres o dri achos busnes y mae'n ofynnol i'r cyngor eu paratoi i sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau adeiladu newydd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 75% o'r cyllid ar gyfer yr adeilad newydd trwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a bydd y 25% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.
Bydd y cynlluniau buddsoddi yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein hachos busnes llawn i ddisodli adeilad presennol Ysgol Neuadd Brynllywarch. Mae eu penderfyniad yn cynrychioli buddsoddiad enfawr arall yn seilwaith ein hysgol a bydd yn galluogi dechrau adeiladu adeilad newydd yr ysgol.
"Nid yw'r adeilad presennol bellach yn cynnig amgylchedd addas ar gyfer gofynion addysgu a chefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol neu gymdeithasol sylweddol.
"Byddai ysgol newydd Brynllywarch yn darparu amgylchedd lle gall staff addysgu ffynnu a darparu'r cyfleusterau i ddisgyblion sy'n galluogi diwallu eu hanghenion gan roi profiad addysgol mwy pleserus a boddhaus iddynt."
Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd y cyngor wedi darparu ysgol gymunedol bwrpasol ar gyfer disgyblion mewn amgylcheddau sy'n briodol i'w hoedran a fydd yn cynnwys y canlynol:
- Cymorth a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag ymddygiad heriol, anawsterau emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd dysgu modern ac arloesol
- Mannau dysgu priodol i gyflwyno'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
- Offer arbenigol, gan gynnwys cyfleusterau TG, i gefnogi canlyniadau addysgu a dysgu a fydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y mwyaf o'u potensial
- Dosbarth wedi'i gyfarparu'n llawn, gyda lle i ymneilltuo a chyfleusterau hylendid, ynghyd ag ardal ddysgu awyr agored unigol.
Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn gallu cael mynediad i'r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg