Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Adeilad newydd ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch yn derbyn cymeradwyaeth derfynol

Image of artist's impression of new Brynllywarch Hall School building

7 Mai 2025

Image of artist's impression of new Brynllywarch Hall School building
Bydd cynlluniau i adeiladu ysgol newydd a fydd yn trawsnewid addysg i ddysgwyr agored i niwed ym Mhowys yn gallu symud ymlaen ar ôl i achos busnes llawn gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol newydd i gymryd lle adeilad presennol Ysgol Neuadd Brynllywarch.

Mae'r ysgol, sydd wedi'i lleoli yng Ngheri ger y Drenewydd, yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 8 a 19 oed, sydd ag ystod eang o anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol cymhleth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes llawn, a gyflwynwyd ar ôl i Gabinet y cyngor roi'r golau gwyrdd ym mis Chwefror. Dyma'r olaf o'r gyfres o dri achos busnes y mae'n ofynnol i'r cyngor eu paratoi i sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau adeiladu newydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 75% o'r cyllid ar gyfer yr adeilad newydd trwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a bydd y 25% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.

Bydd y cynlluniau buddsoddi yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein hachos busnes llawn i ddisodli adeilad presennol Ysgol Neuadd Brynllywarch. Mae eu penderfyniad yn cynrychioli buddsoddiad enfawr arall yn seilwaith ein hysgol a bydd yn galluogi dechrau adeiladu adeilad newydd yr ysgol.

"Nid yw'r adeilad presennol bellach yn cynnig amgylchedd addas ar gyfer gofynion addysgu a chefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol neu gymdeithasol sylweddol.

"Byddai ysgol newydd Brynllywarch yn darparu amgylchedd lle gall staff addysgu ffynnu a darparu'r cyfleusterau i ddisgyblion sy'n galluogi diwallu eu hanghenion gan roi profiad addysgol mwy pleserus a boddhaus iddynt."

Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd y cyngor wedi darparu ysgol gymunedol bwrpasol ar gyfer disgyblion mewn amgylcheddau sy'n briodol i'w hoedran a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • Cymorth a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag ymddygiad heriol, anawsterau emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd dysgu modern ac arloesol
  • Mannau dysgu priodol i gyflwyno'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
  • Offer arbenigol, gan gynnwys cyfleusterau TG, i gefnogi canlyniadau addysgu a dysgu a fydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y mwyaf o'u potensial
  • Dosbarth wedi'i gyfarparu'n llawn, gyda lle i ymneilltuo a chyfleusterau hylendid, ynghyd ag ardal ddysgu awyr agored unigol.

Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn gallu cael mynediad i'r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu