Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebiadau ynghylch Ysgol Bro Cynllaith

Image of a primary school classroom

4 Mehefin 2025

Image of a primary school classroom
Gallai ysgol gynradd fach yng ngogledd Powys gau yn ddiweddarach eleni pe bai'r Cabinet yn rhoi sêl bendith ar hyn yr wythnos nesaf, mae'r cyngor sir wedi dweud.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cau Ysgol Bro Cynllaith ac yn gynharach eleni (Mis Mawrth) cyhoeddodd hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol.

Yn ystod y cyfnod hysbysiad statudol, derbyniwyd 20 o wrthwynebiadau.

Ddydd Mawrth, 10 Mehefin, bydd y Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebiadau ac yn derbyn cais i gymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith o 31 Awst 2025, gyda disgyblion i'w trosglwyddo i'w hysgolion agosaf ym Mhowys

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau'n ofalus, byddaf yn argymell i'r Cabinet eu bod yn cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posibl i'n dysgwyr a chredwn y bydd ein Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn.

"Fel rhan o'r strategaeth, mae angen i ni fynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd disgyblion sy'n lleihau a'r nifer uchel o leoedd dros ben.

"Mae niferoedd disgyblion hanesyddol ac amcanol Ysgol Bro Cynllaith yn awgrymu na ddisgwylir i'r niferoedd gynyddu'n sylweddol yn y dyfodol tra mai hon yw'r drydedd ysgol uchaf ym Mhowys yn ôl cyfran y gyllideb fesul disgybl.

"Mae niferoedd bach y disgyblion yn yr ysgol yn golygu bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol cyfan gyda disgyblion sylfaen mewn un dosbarth a disgyblion hŷn mewn un arall. Gan fod niferoedd disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn yn fach, mae'n anoddach sicrhau bod pob disgybl yn cael ei herio'n briodol.

"Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y cynnig hwn ond credwn ei fod yn angenrheidiol i fynd i'r afael â'r niferoedd isel yn yr ysgol a lleihau capasiti dros ben cyffredinol y cyngor mewn ysgolion cynradd.

"Bydd hefyd yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau gyda chyfoedion o oedrannau tebyg ac yn mynychu ysgol fwy a allai ddarparu ystod ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol."

I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu