Hysbysiad Preifatrwydd gyfer Dechrau'n Deg
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Cyngor Sir Powys yn casglu, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Dechrau'n Deg. Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi'i thargedu ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Ar y dudalen hon
Pwy ydyn ni a sut ellir cysylltu â ni?
Post: Dechrau'n Deg, Gwasanaethau Plant, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG
Ebost: Flyingstart@powys.gov.uk
Ffon: 01597 826114
Swyddog Diogelu Data (SDD):
Gellir cysylltu â'r SDD dros Gyngor Sir Powys ac Ysgolion Powys drwy ebost ar information.compliance@powys.gov.uk.
Pa wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei phrosesu amdanoch chi?
Fel rhan o raglen Dechrau'n Deg, byddwn yn prosesu'r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:
· Enw, dyddiad geni, ethnigrwydd, iaith, anabledd, rhyw, cyfeiriad, cyfeiriad ebost, rhif cyswllt, ymweliadau Ymwelwyr Iechyd, data presenoldeb Gofal Plant, data Lleferydd ac Iaith a phresenoldeb mewn grwpiau rhianta.
Y dibenion yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar eu cyfer:
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu i'n:
- Helpu i sicrhau eich bod chi'n cael y cymorth cydgysylltiedig mwyaf priodol.
- Helpu yn ein gwaith i ganfod ac atal cam-drin plant a phobl ifanc.
- Helpu i gynllunio, trefnu a gwella gwasanaethau, adrodd ar y gwaith rydym ni wedi'i wneud a dangos ein bod ni wedi defnyddio arian cyhoeddus yn iawn.
Ni ddefnyddir penderfyniadau awtomataidd (gan gynnwys proffilio).
Gyda phwy y gallem rannu eich gwybodaeth bersonol?
I gyflwyno Rhaglen Dechrau'n Deg i chi, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda:
- Adrannau eraill Cyngor Sir Powys, gan gynnwys Addysg
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Gwasanaethau Cymorth y Trydydd Sector wedi'u Comisiynu
- Darparwyr Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi'u Comisiynu
- Lleoliadau Cynnig Dysgu Sylfaen / Gofal Plant
Ni chaniateir i ni ddatgelu eich gwybodaeth i sefydliadau eraill oni bai mai dyma'r unig ffordd y gallwn ni sicrhau eich bod chi a'r rhai sy'n agos atoch chi'n cadw'n ddiogel ac yn iach. Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth heb eich caniatâd dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny. Gallai hyn fod i ddiogelu eich buddiannau hanfodol, i atal rhywun arall rhag cael eu rhoi mewn perygl neu i ganfod neu atal twyll.
Bydd hefyd yn ofynnol i Raglen Dechrau'n Deg rannu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad yn cynnwys eich cod post, dyddiad geni, rhif y GIG, a'ch cyfeirnod unigryw gyda Llywodraeth Cymru yn flynyddol. Llywodraeth Cymru fydd rheolwr y data personol a anfonwn atynt i gynnal ymchwil a dadansoddiadau ystadegol i wella'r cymorth Dechrau'n Deg a ddarperir i bobl yng Nghymru, a bydd yn ei gadw am 1 flwyddyn.Bydd Llywodraeth Cymru yn:
- monitro cynnydd tuag at ganlyniadau cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi ystadegau swyddogol
- monitro perfformiad a chyllid awdurdod lleol
- datblygu a gwerthuso polisi
- nodi a chynorthwyo datblygu arfer da
- cefnogi ymchwil sy'n ymwneud â llesiant unigolion.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio data personol a rannwn gyda nhw mewn perthynas â Dechrau'n Deg, ewch i'w hysbysiad preifatrwydd - Dechrau'n Deg: hysbysiad preifatrwydd
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chanllawiau Dechrau'n Deg a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cefnogi rhannu data personol rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ar gyfer gwerthuso a dadansoddi effaith rhaglen Dechrau'n Deg a fydd yn ei thro yn cael ei defnyddio i wella'r gwasanaethau a ddarperir i chi.
Nid ddefnyddir data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Ble y gallem gasglu eich data personol, os na chaiff ei ddarparu gennych chi?
- Cyngor Sir Powys gan gynnwys Addysg, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Gwasanaethau Brys, Gwasanaethau Cymorth y Trydydd Sector wedi'u Comisiynu, Darparwyr Gofal Plant wedi'u Comisiynu.
Y Sail Gyfreithiol (Beth sy'n caniatáu i ni brosesu eich data personol):
Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU), sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni nodi pa sail gyfreithiol y mae'n dibynnu arni er mwyn prosesu eich data personol.
I brosesu eich data personol yma, rydym yn dibynnu ar:
- Ein rhwymedigaeth i gyflawni tasg gyhoeddus yn unol â
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Deddf Cydraddoldebau 2010
- Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) (2018)
- Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, rydym yn dibynnu ar:
- (g) Resymau o ddiddordeb sylweddol i'r cyhoedd (gyda sail gyfreithiol). Yr amod perthnasol yw Atodlen 1 Rhan 2 (6) o Ddeddf Diogelu Data 2018;
- (f) Iechyd neu ofal cymdeithasol (gyda sail gyfreithiol)
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?
Byddwn yn cadw gwybodaeth yn unol ag amserlen gadw'r Cyngor: https://cy.powys.gov.uk/rhestrgadw fodd bynnag, gall fod amgylchiadau lle cedwir data personol am fwy o amser, er enghraifft i gydymffurfio â'r gyfraith. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, caiff gwybodaeth ei dileu a/neu ei gwneud yn ddienw.
Rhagor o Wybodaeth:
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, yr hawliau y mae gennych hawl i'w harfer fel yr hawl i gael mynediad, a manylion cyswllt y comisiynydd, ewch i'n hysbysiad preifatrwydd trosfwaol yma: Gwasanaethau Plant: Hysbysiad Preifatrwydd