Dal i fod amser i ddweud eich dweud ar gynlluniau addysg uchelgeisiol ar gyfer canolbarth Powys

17 Mehefin 2025

Fel rhan o'i raglen Trawsnewid Addysg, mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn ystyried opsiynau ar sut i symud ymlaen â'i gynlluniau i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed yn Llanfair-ym-Muallt, ac i wneud newidiadau i Ysgol Calon Cymru ac Ysgol GG Llanfair-ym-Muallt.
Felly, mae'r cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar y cynigion. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Mercher, 2 Gorffennaf, felly mae amser o hyd i ddweud eich dweud a helpu i lunio dyfodol addysg yn yr ardal.
Byddai'r cynigion cyffrous yn helpu'r cyngor i gyflawni ei ddyheadau a amlinellwyd yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-32 yn ogysstal ag alinio â'i Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.
Y cynigion, a fyddai'n cael eu cyflwyno mewn dau gam, yw:
Cam 1 (Medi 2027):
- Sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed (4-18) ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
o I ddechrau byddai'r ysgol yn rhannu'r campws yn Llanfair-ym-Muallt ag Ysgol Calon Cymru, gan ddefnyddio rhan o'i hadeilad a rhannu rhai cyfleusterau.
o Byddai hyn yn drefniant dros dro hyd nes y bydd buddsoddiad cyfalaf wedi'i wneud ar safle Llandrindod.
- Newid categori iaith Ysgol GG Llanfair-ym-Muallt i gyfrwng Saesneg.
o Byddai disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol GG Llanfair-ym-Muallt yn symud i'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed.
- Newid categori iaith Ysgol Calon Cymru o ddwy ffrwd i gyfrwng Saesneg.
o Byddai disgyblion ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn ffrwd Gymraeg Ysgol Calon Cymru ym mis Medi 2027 yn trosglwyddo i'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed. Byddai ffrwd cyfrwng Cymraeg Ysgol Calon Cymru yn dod i ben yn raddol erbyn mis Medi 2029.
Cam 2 (Medi 2029 ar y cynharaf):
- Yn dilyn buddsoddiad cyfalaf ar gampws Llandrindod i ddarparu ar gyfer holl ddisgyblion Ysgol Calon Cymru a gwella cyfleusterau sy'n bodoli eisoes, byddai Ysgol Calon Cymru yn cau ei champws yn Llanfair-ym-Muallt ac yn gweithredu o gampws Llandrindod yn unig.
o Byddai disgyblion o gampws yr ysgol yn Llanfair-ym-Muallt yn symud i safle Llandrindod.
o Byddai'r ysgol cyfrwng Cymraeg bob oed yn cymryd drosodd yr holl gampws yn Llanfair-ym-Muallt.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi o'u hamser i rannu eu barn ar y cynigion pwysig hyn. Mae eich adborth yn hanfodol i'n helpu i lunio dyfodol addysg yng nghanolbarth Powys.
"I'r rhai sydd heb ymateb eto, mae dal i fod amser. Mae'n bwysig ein bod ni'n clywed gan gymaint o bobl â phosibl - yn enwedig y rhai sy'n byw yn nalgylch Calon Cymru a'r ardaloedd cyfagos - fel bod modd ystyried pob safbwynt cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
"Mae'r cynigion hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran cyflawni ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys a'n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Eu nod yw gwella cyfleoedd i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gyda chymorth buddsoddiad mewn cyfleusterau modern sy'n addas i'r pwrpas."
I ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru
Fel arall, gallwch ymateb i ni yn ysgrifenedig drwy e-bostio school.ymgynghoriad@powys.gov.uk neu drwy'r post i'r Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg