Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y rhwydwaith, bydd tarfu ar wasanaethau ar y wefan rhwng 5PM a 9PM ddydd Iau, 19 Mehefin

Dal i fod amser i ddweud eich dweud ar gynlluniau addysg uchelgeisiol ar gyfer canolbarth Powys

Image of Ysgol Calon Cymru

17 Mehefin 2025

Image of Ysgol Calon Cymru
Mae amser o hyd i gyflwyno eich barn ar gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid addysg yng nghanolbarth Powys, a allai weld ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed yn cael ei sefydlu yn ogystal â buddsoddiad sylweddol mewn dau adeilad ysgol.

Fel rhan o'i raglen Trawsnewid Addysg, mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn ystyried opsiynau ar sut i symud ymlaen â'i gynlluniau i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed yn Llanfair-ym-Muallt, ac i wneud newidiadau i Ysgol Calon Cymru ac Ysgol GG Llanfair-ym-Muallt.

Felly, mae'r cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar y cynigion. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Mercher, 2 Gorffennaf, felly mae amser o hyd i ddweud eich dweud a helpu i lunio dyfodol addysg yn yr ardal.

Byddai'r cynigion cyffrous yn helpu'r cyngor i gyflawni ei ddyheadau a amlinellwyd yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-32 yn ogysstal ag alinio â'i Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Y cynigion, a fyddai'n cael eu cyflwyno mewn dau gam, yw:

Cam 1 (Medi 2027):

  • Sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed (4-18) ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.

o   I ddechrau byddai'r ysgol yn rhannu'r campws yn Llanfair-ym-Muallt ag Ysgol Calon Cymru, gan ddefnyddio rhan o'i hadeilad a rhannu rhai cyfleusterau.

o   Byddai hyn yn drefniant dros dro hyd nes y bydd buddsoddiad cyfalaf wedi'i wneud ar safle Llandrindod.

  • Newid categori iaith Ysgol GG Llanfair-ym-Muallt i gyfrwng Saesneg.

o   Byddai disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol GG Llanfair-ym-Muallt yn symud i'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed.

  • Newid categori iaith Ysgol Calon Cymru o ddwy ffrwd i gyfrwng Saesneg.

o   Byddai disgyblion ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn ffrwd Gymraeg Ysgol Calon Cymru ym mis Medi 2027 yn trosglwyddo i'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed. Byddai ffrwd cyfrwng Cymraeg Ysgol Calon Cymru yn dod i ben yn raddol erbyn mis Medi 2029.

Cam 2 (Medi 2029 ar y cynharaf):

  • Yn dilyn buddsoddiad cyfalaf ar gampws Llandrindod i ddarparu ar gyfer holl ddisgyblion Ysgol Calon Cymru a gwella cyfleusterau sy'n bodoli eisoes, byddai Ysgol Calon Cymru yn cau ei champws yn Llanfair-ym-Muallt ac yn gweithredu o gampws Llandrindod yn unig.

o   Byddai disgyblion o gampws yr ysgol yn Llanfair-ym-Muallt yn symud i safle Llandrindod.

o   Byddai'r ysgol cyfrwng Cymraeg bob oed yn cymryd drosodd yr holl gampws yn Llanfair-ym-Muallt.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi o'u hamser i rannu eu barn ar y cynigion pwysig hyn. Mae eich adborth yn hanfodol i'n helpu i lunio dyfodol addysg yng nghanolbarth Powys.

"I'r rhai sydd heb ymateb eto, mae dal i fod amser. Mae'n bwysig ein bod ni'n clywed gan gymaint o bobl â phosibl - yn enwedig y rhai sy'n byw yn nalgylch Calon Cymru a'r ardaloedd cyfagos - fel bod modd ystyried pob safbwynt cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

"Mae'r cynigion hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran cyflawni ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys a'n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Eu nod yw gwella cyfleoedd i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gyda chymorth buddsoddiad mewn cyfleusterau modern sy'n addas i'r pwrpas."

I ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru  

Fel arall, gallwch ymateb i ni yn ysgrifenedig drwy e-bostio school.ymgynghoriad@powys.gov.uk neu drwy'r post i'r Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.

I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu