Cabinet i ystyried cynnig i gau Ysgol Gynradd Llandinam

9 Gorffennaf 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cau Ysgol Gynradd Llandinam, sydd â 33 o ddisgyblion ar hyn o bryd.
Ar ddydd Mawrth, 15 Gorffennaf, bydd y Cabinet yn ystyried y cynlluniau a gofynnir iddynt ddechrau'r broses statudol, a allai weld yr ysgol yn cau o 31 Awst 2026.
Pe bai'r ysgol yn cau, byddai angen i ddisgyblion drosglwyddo i ysgolion eraill o fewn y dalgylch ehangach.
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad i ddechrau'r broses statudol, rhagwelir y bydd ymgynghoriad yn dechrau ym mis Medi.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posibl i'n dysgwyr a chredwn y bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn.
"Fel rhan o'r strategaeth, mae angen i ni fynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd disgyblion sy'n lleihau a'r nifer uchel o leoedd dros ben.
"Mae niferoedd disgyblion hanesyddol ac amcanol Ysgol Gynradd Llandinam yn awgrymu y bydd yr ysgol yn parhau i fod yn un o'r ysgolion lleiaf yn y sir hyd y gellir rhagweld. Ar hyn o bryd, dyma'r drydedd ysgol uchaf ym Mhowys yn ôl cyfran y gyllideb fesul disgybl - £7,424 fesul disgybl o'i gymharu â chyfartaledd Powys o £5,214.
"Mae niferoedd bach y disgyblion yn yr ysgol yn golygu bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol cyfan gyda disgyblion sylfaen mewn un dosbarth a disgyblion hŷn mewn un arall. Gan fod niferoedd disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn yn fach iawn, mae'n fwy heriol diwallu anghenion pob disgybl, ac mae'r cyfleoedd i ddisgyblion weithio gyda disgyblion o oedran a gallu tebyg yn fwy cyfyngedig.
"Nid ar chwarae bach y cafodd y cynnig sydd gerbron y Cabinet mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Llandinam ei gyflwyno a digwyddodd hynny yn dilyn adolygiad ysgafn o'r dalgylch ehangach ond credwn fod angen mynd i'r afael â'r niferoedd isel yn yr ysgol a lleihau capasiti dros ben cyffredinol y cyngor mewn ysgolion cynradd.
"Bydd hefyd yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau gyda chyfoedion o oedrannau tebyg ac yn mynychu ysgol fwy a allai ddarparu ystod ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol."
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg