Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau ysgolion uwchradd bellach ar agor

Image of a teacher and secondary school pupils

1 Medi 2025

Image of a teacher and secondary school pupils
Mae ceisiadau bellach ar agor i blant sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi 2026, meddai Cyngor Sir Powys.

Mae gan rieni neu ofalwyr plant sydd bellach ym Mlwyddyn Chwech tan ddydd Gwener 31 Hydref 2025 i gwblhau eu cais.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Powys sy'n Dysgu: "Dylai pob rhiant/gofalwr gwblhau'r cais hwn cyn gynted â phosibl am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2026.

"Os na chaiff ei gwblhau mewn pryd, yna gall hyn beryglu lle eu plentyn yn eu hysgol ddewisol."

Mae angen i rieni/gofalwyr gwblhau cais ar-lein erbyn dydd Gwener 31 Hydref 2025 drwy ymweld â Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol.

Os na allwch wneud cais ar-lein, cysylltwch ag admissions@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu