Ceisiadau ysgolion uwchradd bellach ar agor

1 Medi 2025

Mae gan rieni neu ofalwyr plant sydd bellach ym Mlwyddyn Chwech tan ddydd Gwener 31 Hydref 2025 i gwblhau eu cais.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Powys sy'n Dysgu: "Dylai pob rhiant/gofalwr gwblhau'r cais hwn cyn gynted â phosibl am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2026.
"Os na chaiff ei gwblhau mewn pryd, yna gall hyn beryglu lle eu plentyn yn eu hysgol ddewisol."
Mae angen i rieni/gofalwyr gwblhau cais ar-lein erbyn dydd Gwener 31 Hydref 2025 drwy ymweld â Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol.
Os na allwch wneud cais ar-lein, cysylltwch ag admissions@powys.gov.uk