Cytuno ar adroddiad blynyddol Diweddaraf BGC Powys

3 Hydref 2025

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn bartneriaeth statudol o gyrff cyhoeddus sy'n gweithredu ym Mhowys, gan gydweithio â sefydliadau eraill a phobl Powys i wella llesiant mewn cymunedau lleol drwy gydweithio mewn modd mwy cynaliadwy.
Mae dyletswydd ar BGC i adolygu eu cynnydd yn erbyn eu Cynllun Llesiant bob blwyddyn. Adolygwyd Cynllun Llesiant Powys yn fwyaf diweddar yn 2023 (mewn grym tan 2027) gan wneud hyn yr ail adroddiad blynyddol yn erbyn y Cynllun Llesiant diweddaraf.
Mae adroddiad cynnydd blynyddol 2024/25 yn rhoi trosolwg o weithgareddau'r tri Cham:
- Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd
- Dull System Gyfan o Bwysau Iach
- Tystiolaeth a Mewnwelediad
Mae'r tri Cham a'u rhaglenni gwaith yn cyd-fynd â thri amcan Cynllun Llesiant BGC Powys, gyda'r nod cyffredinol o gyflawni gweledigaeth y Bwrdd o Bowys Deg, Cynaliadwy ac Iach.
Craffwyd ar yr Adroddiad Blynyddol hefyd gan Bwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys, gan helpu i yrru gwella yn y ffordd y mae BGC Powys yn cyflawni ei ddyletswyddau ac yn hyrwyddo llesiant i breswylwyr Powys.
Gellir darllen yr adroddiad blynyddol, gyda'r Crynodeb Gweithredol ategol, ar ein tudalen gwefan yma: Ein Hadroddiad Cynnydd Blynyddol
I weld rhagor o wybodaeth am y BGC a llesiant ym Mhowys, ewch i Cynllun Llesiant Powys
Os hoffech gymryd rhan neu ddweud wrthym beth yw eich barn, rhowch wybod i ni drwy e-bostio powyspsb@powys.gov.uk