Toglo gwelededd dewislen symudol

Wythnosau olaf casglu gwastraff o'r ardd yn 2025

Image of someone raking autumn leaves

19 Tachwedd 2025

Image of someone raking autumn leaves
Dyma atgoffa trigolion a'r rhai sydd wedi cofrestru i gasglu gwastraff o'r ardd mai dim ond rhai wythnosau sydd ar ôl eleni i gasglu eich gwastraff.

I weld pryd mae'r dyddiadau casglu nesaf, edrychwch ar sticer aelodaeth 2025 sydd ar eich bin gwyrdd, neu ewch i Diwrnod casglu biniau

Bydd modd tanysgrifio ar gyfer gwasanaeth 2026 eto yn y gwanwyn, gyda'r gwasanaeth yn ailgychwyn ar ddechrau mis Mawrth 2026.

Dywed y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae gerddi pawb â naws hydrefol iddynt bellach, ac maent yn wlyb ar hyn o bryd, ond ni fydd hynny'n ein hatal rhag eu tacluso ar ôl yr haf, a pharatoi at y gwanwyn.

"Gan gofio hynny, hoffem atgoffa pawb i fanteisio i'r eithaf ar y casgliadau o wastraff garddio sy'n weddill nawr ar gyfer 2025.

"Hyd yma eleni, gyda help aelwydydd sydd wedi cofrestru, rydym wedi casglu miloedd o dunelli o wastraff o'r ardd a'i ailgychu'n gompost.

"Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf a'r gwastraff o'r ardd yn lleihau, mae'r gwasanaeth yn cymryd egwyl dros y gaeaf, ond gallwch barhau i ailgylchu eich gwastraff trwy ei droi'n gompost eich hun neu fynd ag ef i un o'n canolfannau gwastraff ac ailgylchu ym Mhowys."

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o'r ardd, ewch i: Casglu gwastraff o'r ardd 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu