Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd ysgol Pontsenni

Image of artists' impression of new school building for Sennybridge C.P. School

21 Tachwedd 2025

Image of artists' impression of new school building for Sennybridge C.P. School
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bod cynlluniau cyffrous ar gyfer adeilad ysgol newydd i ddysgwyr yn ne Powys wedi cymryd cam arwyddocaol arall ymlaen gyda chyflwyno cais cynllunio.

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno ei gais cynllunio i adeiladu ysgol gynradd newydd gyda 120 o leoedd i gymryd lle adeilad presennol Ysgol Gynradd Pontsenni, nad yw bellach yn addas i ddiwallu anghenion cwricwlwm ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain na gofynion llesiant disgyblion.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystyried y cais cynllunio.

Bydd yr adeilad newydd yn darparu cyfleusterau modern, addas i'r diben a fydd yn galluogi'r cwricwlwm i gael ei gyflwyno mewn ffordd barhaus a chydlynol o'r Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Bydd darpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar hefyd yn cael ei chyd-leoli ar yr un safle fel rhan o'r cynlluniau hyn.

Mae'r prosiect hwn yn rhan allweddol o Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, sydd â'r nod o wella profiadau a chanlyniadau dysgwyr drwy fuddsoddi mewn amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel.

Bydd hefyd yn cyfrannu at weledigaeth y cyngor ar gyfer Powys Gryfach, Tecach, Wyrddach drwy greu adeilad sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac sy'n cefnogi nodau cynaliadwyedd ac sy'n gwella cyflawniad addysgol a lles dysgwyr.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae cyflwyno'r cais cynllunio yn garreg filltir bwysig ar gyfer darparu ysgol newydd ar gyfer Pontsenni.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at gyfleusterau sy'n bodloni safonau modern ac yn cefnogi eu dysgu a'u lles. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i drawsnewid addysg ac adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys."

I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu