Y Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghori ysgol Llandinam
3 Rhagfyr 2025
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cau Ysgol Gynradd Llandinam a chynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos ar y cynnig rhwng mis Medi a mis Hydref 2025. Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth, 16 Rhagfyr.
Gofynnir i'r Cabinet hefyd barhau â'r broses i gau Ysgol Gynradd Llandinam, sydd â 35 o ddisgyblion ar hyn o bryd.
Os rhoddir caniatâd, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol. Yna byddai'n ofynnol iddo ystyried adroddiad arall i gloi'r broses.
Pe bai'r ysgol yn cau, byddai angen i ddisgyblion drosglwyddo i ysgolion eraill o fewn y dalgylch ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Powys sy'n Dysgu: "Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad diweddar ar y cynnig hwn. Ystyriwyd eich barn yn ofalus fel rhan o'r broses hon.
Yr argymhelliad gerbron y Cabinet yw symud ymlaen trwy gyhoeddi hysbysiad statudol i gynnig cau Ysgol Gynradd Llandinam yn ffurfiol.
"Ein blaenoriaeth yw sicrhau'r dechrau gorau posibl i bob dysgwr, ac rydym yn credu y bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn helpu i gyflawni hynny. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael â heriau fel y gyfran uchel o ysgolion bach, niferoedd disgyblion sy'n gostwng, a lleoedd gwag sylweddol ar draws y sir.
"Mae ffigurau hanesyddol a rhagamcanol yn dangos y bydd Ysgol Gynradd Llandinam yn parhau i fod yn un o'r ysgolion lleiaf ym Mhowys am y dyfodol rhagweladwy. Ar hyn o bryd mae ganddi un o'r costau uchaf fesul disgybl yn y sir - £7,424 o'i gymharu â chyfartaledd Powys o £5,214.
"Mae niferoedd bach o ddisgyblion yn golygu bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol cyfan, sy'n cyfyngu ar gyfleoedd i ddysgu ochr yn ochr â chyfoedion o oedran a gallu tebyg. Byddai symud ymlaen â'r cynnig hwn yn caniatáu i ddisgyblion fynychu ysgol fwy gyda chyfleoedd addysgol ac allgyrsiol ehangach.
"Nid yw'r argymhelliad hwn wedi'i wneud yn ysgafn, ond credwn ei bod yn angenrheidiol mynd i'r afael â niferoedd isel a lleihau capasiti dros ben yn ein hysgolion cynradd."
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg.
