Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Bydd dyddiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn newid dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Canmoliaeth uchel i brosiect Ysgol Robert Owen yng Ngwobrau CLAW cenedlaethol

Image of the Ysgol Robert Owen building

15 Rhagfyr 2025

Image of the Ysgol Robert Owen building
Mae prosiect adeiladu ysgol mawr yng ngogledd Powys wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol ar ôl derbyn canmoliaeth uchel yng nghategori Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau CLAW 2025.

Yr adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Robert Owen, Y Drenewydd, yw'r prosiect diweddaraf a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Powys o dan ei Raglen Trawsnewid Addysg, sy'n anelu at wella profiadau a chanlyniadau dysgwyr trwy fuddsoddi mewn amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel.

Mae CLAW (Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru) yn sefydliad cydweithredol sy'n dod ag awdurdodau lleol ynghyd i rannu arfer gorau wrth ddylunio, adeiladu a chynnal a chadw adeiladau cyhoeddus.

Mae'r gwobrau blynyddol yn dathlu rhagoriaeth mewn prosiectau adeiladu ledled Cymru, gan gydnabod arloesedd, cynaliadwyedd a darpariaeth cyfleusterau o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion cymunedau.

Mae'r adeilad newydd yn darparu cyfleusterau modern ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n cynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd a ffisiotherapi, mannau therapi adlamu, a chaffi cymunedol. Mae ardaloedd allanol yn darparu mannau chwaraeon, dysgu a chymdeithasol, gan gynnwys cyfleusterau chwarae meddal helaeth ar gyfer disgyblion cyfnod sylfaen.

Mae'r prosiect wedi'i gynllunio gyda chynaliadwyedd wrth ei galon, gan gynnwys pympiau gwres o'r aer a phaneli solar i leihau'r galw am garbon. Mae hyn yn cefnogi gweledigaeth y cyngor ar gyfer Powys Gryfach, Decach, Wyrddach, gan leihau'r effaith amgylcheddol tra'n creu lle iach a modern i ddysgwyr.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwy'n wrth fy modd bod prosiect Ysgol Robert Owen wedi cael canmoliaeth uchel yng Ngwobrau CLAW.

"Mae'r adeilad newydd hwn yn rhan bwysig o'n Strategaeth i Drawsnewid Addysg ym Mhowys ac mae'n darparu cyfleuster o'r radd flaenaf i rai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Mae'n rhoi'r amgylchedd sydd ei angen ar staff addysgu i ffynnu a sicrhau bod disgyblion yn elwa o gyfleusterau sy'n diwallu eu hanghenion ac yn eu galluogi i fwynhau dysgu."

Dywedodd y Cynghorydd Joy Jones, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Robert Owen: "Ry'n ni wrth ein bodd bod ein hadeilad ysgol newydd wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr hon. Mae'n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad pawb sy'n gysylltiedig â chreu amgylchedd modern, cynhwysol lle gall ein dysgwyr ffynnu.

"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn foment o falchder mawr i gymuned ein hysgol ac yn dangos pa mor bwysig yw buddsoddi mewn cyfleusterau sy'n diwallu anghenion pob disgybl."

Ariannwyd y prosiect gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'r cyngor.

I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022-2027), ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu