Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer cyrsiau Chweched Powys yn dechrau ym mis Medi 2026

Image of learners sitting down with laptops

30 Ioanwr 2026

Image of learners sitting down with laptops
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer cyrsiau Chweched Powys sy'n dechrau ym mis Medi 2026 bellach ar agor.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cyngor wedi gweithio'n agos gyda'r holl benaethiaid uwchradd ac ysgolion pob oed i adolygu darpariaeth ôl-16 ac i gryfhau'r cwricwlwm sydd ar gael i ddysgwyr.  Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddull rhanbarthol newydd o gynllunio'r cynnig, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl ifanc ledled Powys yn well.

Roedd arolwg o bob dysgwr ym Mlwyddyn 11 yn ganolog i ddatblygu'r cynnig newydd, gan helpu i nodi'r pynciau y mae pobl ifanc eisiau eu hastudio fwyaf. O ganlyniad, bydd cwricwlwm 2026-27 yn darparu dewis llawer ehangach. O'i gymharu â chynnig cyfredol Blwyddyn 12, bydd 12 pwnc ychwanegol ar gael, gan gynnwys naw opsiwn galwedigaethol newydd, a bydd yn ehangu llwybrau i gyflogaeth, prentisiaethau ac astudiaethau pellach.

Mae nifer y pynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd wedi dyblu, gan gefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor.

Ar gyfer 2026-27, cynigir 10 pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg‑, gan gynnwys dau bwnc galwedigaethol, i fyny o bum pwnc a dim opsiynau galwedigaethol yn 2025-26. Mae opsiynau dwyieithog hefyd wedi cynyddu o naw (gan gynnwys tri galwedigaethol) i 14 (gan gynnwys pump galwedigaethol).

Bydd y cyngor yn parhau i gryfhau'r trefniadau cyn Medi 2026 fel rhan o'i ymrwymiad i addysg ôl-16 o ansawdd uchel.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson‑ Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn falch o agor ceisiadau ar gyfer cyrsiau Chweched Powys ar gyfer Medi 2026. Mae'r gwelliannau hyn yn adlewyrchu'n uniongyrchol y cydweithrediad cadarnhaol rhwng y cyngor ac arweinwyr ysgolion, sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y cwricwlwm yn uchelgeisiol, yn canolbwyntio ar y dysgwr ac ar y dyfodol.

"Mae'r cynnig academaidd a galwedigaethol estynedig, ochr yn ochr â'r cynnydd sylweddol mewn cyfleoedd cyfrwng Cymraeg‑ a dwyieithog, yn darparu llwybrau cliriach i astudiaethau pellach, prentisiaethau a chyflogaeth. Rwy'n annog pob dysgwr a theulu i archwilio'r ystod eang o ddewisiadau sydd ar gael bellach."

Am ragor o wybodaeth - gan gynnwys prosbectws Chweched Powys Sixth, gwybodaeth fesul ysgol a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio - ewch i Ceisiadau Dosbarth Chweched Powys - Medi 2026

Anogir dysgwyr a rhieni/gofalwyr hefyd i siarad â'u hysgol am arweiniad ar y llwybr gorau ar gyfer y dyfodol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu