Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer cyrsiau Chweched Powys yn dechrau ym mis Medi 2026
30 Ioanwr 2026
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cyngor wedi gweithio'n agos gyda'r holl benaethiaid uwchradd ac ysgolion pob oed i adolygu darpariaeth ôl-16 ac i gryfhau'r cwricwlwm sydd ar gael i ddysgwyr. Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddull rhanbarthol newydd o gynllunio'r cynnig, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl ifanc ledled Powys yn well.
Roedd arolwg o bob dysgwr ym Mlwyddyn 11 yn ganolog i ddatblygu'r cynnig newydd, gan helpu i nodi'r pynciau y mae pobl ifanc eisiau eu hastudio fwyaf. O ganlyniad, bydd cwricwlwm 2026-27 yn darparu dewis llawer ehangach. O'i gymharu â chynnig cyfredol Blwyddyn 12, bydd 12 pwnc ychwanegol ar gael, gan gynnwys naw opsiwn galwedigaethol newydd, a bydd yn ehangu llwybrau i gyflogaeth, prentisiaethau ac astudiaethau pellach.
Mae nifer y pynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd wedi dyblu, gan gefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor.
Ar gyfer 2026-27, cynigir 10 pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg‑, gan gynnwys dau bwnc galwedigaethol, i fyny o bum pwnc a dim opsiynau galwedigaethol yn 2025-26. Mae opsiynau dwyieithog hefyd wedi cynyddu o naw (gan gynnwys tri galwedigaethol) i 14 (gan gynnwys pump galwedigaethol).
Bydd y cyngor yn parhau i gryfhau'r trefniadau cyn Medi 2026 fel rhan o'i ymrwymiad i addysg ôl-16 o ansawdd uchel.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson‑ Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn falch o agor ceisiadau ar gyfer cyrsiau Chweched Powys ar gyfer Medi 2026. Mae'r gwelliannau hyn yn adlewyrchu'n uniongyrchol y cydweithrediad cadarnhaol rhwng y cyngor ac arweinwyr ysgolion, sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y cwricwlwm yn uchelgeisiol, yn canolbwyntio ar y dysgwr ac ar y dyfodol.
"Mae'r cynnig academaidd a galwedigaethol estynedig, ochr yn ochr â'r cynnydd sylweddol mewn cyfleoedd cyfrwng Cymraeg‑ a dwyieithog, yn darparu llwybrau cliriach i astudiaethau pellach, prentisiaethau a chyflogaeth. Rwy'n annog pob dysgwr a theulu i archwilio'r ystod eang o ddewisiadau sydd ar gael bellach."
Am ragor o wybodaeth - gan gynnwys prosbectws Chweched Powys Sixth, gwybodaeth fesul ysgol a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio - ewch i Ceisiadau Dosbarth Chweched Powys - Medi 2026
Anogir dysgwyr a rhieni/gofalwyr hefyd i siarad â'u hysgol am arweiniad ar y llwybr gorau ar gyfer y dyfodol.
