Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Paratowch ar gyfer y gwanwyn: mae tanysgrifiadau casgliadau ailgylchu gwastraff gardd 2026 ar agor

Garden recycling bin 2026

9 Chwefror 2025

Garden recycling bin 2026
Mae trigolion yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer y gwanwyn, gan fod tanysgrifiadau ar gyfer casgliadau ailgylchu gwastraff gardd 2026 bellach ar agor, gyda chasgliadau'n dechrau o ddechrau mis Mawrth.

Bydd tanysgrifwyr cynnar sy'n cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd 2026 cyn diwedd mis Mawrth yn gallu gwneud hynny am yr un pris â'r llynedd (£60 am fin olwynion 240 litr, neu £55 am fin olwynion 140 litr neu sachau compostadwy). O fis Ebrill, ar ôl cymeradwyo cyllideb y cyngor, disgwylir y bydd y costau yn codi gyda'r gyfradd chwyddiant i £62 a £57 yn y drefn honno.

Cysylltwyd eisoes gyda thanysgrifwyr blaenorol gan roi cyfle iddynt ail-danysgrifio. Gall unrhyw un sydd angen cofrestru o hyd - neu sy'n ymuno â'r gwasanaeth am y tro cyntaf - danysgrifio ar unrhyw adeg trwy ymweld â Casglu gwastraff o'r ardd neu drwy ffonio 01597 827465.

Mae'r gwasanaeth ailgylchu gwastraff gardd yn cynnig ffordd gyfleus, lân a syml o waredu gwastraff gardd, gyda chasgliadau bob pythefnos rhwng 2 Mawrth a 27 Tachwedd. Mae'r gost tanysgrifio yn cynnwys llogi bin olwynion neu, i drigolion sydd â'u gwastraff na ellir ei ailgylchu wedi'i gasglu mewn bagiau porffor, cyflenwad o sachau gwastraff gardd compostadwy yn lle hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Gyda'r gwanwyn rownd y gornel, bydd llawer ohonom yn treulio mwy o amser yn ein gerddi cyn bo hir. Mae'r gwasanaeth casglu hawdd, glân a syml hwn yn ffordd wych o gael gwared ar wastraff gardd yn gyfleus, yn ddiogel gan wybod ei fod yn cael ei ailgylchu i gompost."

"Mewn ymgais i gadw'r cynnydd mewn prisiau i'r lefel leiaf, disgwylir i gost y gwasanaeth godi £2 o fis Ebrill, sy'n unol â'r gyfradd chwyddiant. Fodd bynnag, gall y rhai sy'n cofrestru cyn diwedd mis Mawrth fanteisio ar 20 casgliad pythefnosol 2026 am yr un gost â'r llynedd.

"Y ffordd hawsaf a mwyaf effeithlon i gwsmeriaid newydd neu bresennol danysgrifio ar gyfer tymor 2026 yw ar-lein: Casglu gwastraff o'r ardd"

‑Bydd preswylwyr sy'n aildanysgrifio yn derbyn sticer i'w osod ar eu bin olwynion gwyrdd, gan helpu criwiau casglu i nodi pa aelwydydd sydd wedi cofrestru. Bydd tanysgrifwyr newydd yn derbyn eu bin gwyrdd o fewn 10 diwrnod gwaith, felly anogir trigolion i gofrestru'n gynnar i wneud y gorau o gasgliadau'r tymor.

Ar ôl tanysgrifio, atgoffir preswylwyr hefyd i wirio eu diwrnod casglu, gan y gallai hyn fod wedi newid o'r blynyddoedd blaenorol, ar https://en.powys.gov.uk/binday Diwrnod casglu biniau

Gall y rhai sy'n dewis peidio â thanysgrifio barhau i gompostio gwastraff gardd gartref neu fynd ag ef i un o bum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Powys.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu