Gweithredwch i lanhau Powys
11 Mawrth 2025
Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda'r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda'i gilydd maent yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan rhwng 13 a 29 Mawrth.
Nod Gwanwyn Glân Cymru yw codi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu cadarnhaol. Mae sbwriel nid yn unig yn costio tua £70 miliwn i gael gwared arno yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae hefyd yn cael effaith ddinistriol ar fywyd morol a bywyd gwyllt lleol. Y newyddion da yw bod codi sbwriel yn weithred syml y gall unrhyw un ei wneud i wneud gwahaniaeth uniongyrchol a gweledol i'w hardal.
"Mae cymunedau Powys yn enwog am ofalu am eu hardaloedd lleol, ond yn ystod pythefnos Gwanwyn Glân Cymru, byddem yn hoffi annog hyd yn oed mwy ohonoch i helpu cadw Powys yn lân ac yn wyrdd," eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Mewn blynyddoedd blaenorol, gwelwyd nifer sylweddol o grwpiau ac unigolion yn gwirfoddoli i helpu cadw Powys yn lân ac yn daclus, felly mae'n bleser mawr allu ymuno â Chadw Cymru'n Daclus eleni ar gyfer ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru 2026.
"Byddaf yn mynd allan gyda'm grŵp lleol, Casglwyr Sbwriel Llangatwg, a buaswn yn annog cymaint ohonoch â phosibl i ymuno â neu drefnu digwyddiad lleol. Nid yn unig y bydd yn fuddiol i'r amgylchedd lleol, ond gall fod yn ffordd wych i gael hwyl a chymdeithasu gyda phobl debyg ichi.
"Gallwch fenthyg pecynnau hel sbwriel, sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch, gan rai o'n llyfrgelloedd; felly beth am bicio draw i'w gweld neu gellir archebu pecyn ar-lein, a threfnu gweithgaredd Gwanwyn Glân ar gyfer eich ardal leol yn y dyfodol agos. Ewch i Pecyn codi sbwriel am fwy o wybodaeth."
Ers 2016, mae degau ar filoedd o arwyr sbwriel wedi dangos eu bod yn caru eu cartref trwy gasglu tunelli o sbwriel ac ailgylchu. Gobaith Cadwch Gymru'n Daclus yw curo hyn a gwneud 2026 yn flwyddyn gwanwyn glân mwyaf llwyddiannus eto.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Y gwanwyn yw'r amser perffaith i fynd allan a gofalu am y lleoedd sy'n bwysig i ni. Gall codi sbwriel oleuo stryd, codi eich calon a dod â phobl ynghyd.
"Mae'n ffordd gadarnhaol, ymarferol o gwrdd â'ch cymdogion, mwynhau'r awyr iach, a gwneud gwahaniaeth giwrioneddol. Felly, cydiwch mewn bag, camwch allan, ac ymunwch â miloedd o bobl eraill i helpu i gadw Cymru'n Daclus."
I wneud addewid a chymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru
