Categori Iaith Pontsenni
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnig i newid categori iaith Ysgol Gynradd Pontsenni.
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnig i newid categori iaith Ysgol Gynradd Pontsenni. Mae'r cynnig fel a ganlyn:
- I wneud newid rheoledig i newid y cyfrwng addysgu yn Ysgol Gynradd Pontsenni i gyfrwng Cymraeg.
- Byddai hyn yn cael ei gyflwyno'n raddol, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddechrau gyda'r flwyddyn Derbyn ym mis Medi 2027.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion a Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 15 Ebrill 2026 a bydd yn dod i ben ar 27 Mai 2026.
Gwneud ymateb
I ymateb i'r ymgynghoriad gallwch:
- Llenwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad - fersiwn ar-lein ar gael yma https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ysgol-gynradd-pontsenni neu fersiwn Word ar gael isod
- E-bostiwch y Tîm Trawsnewid Addysg - school.consultation@powys.gov.uk
- Ysgrifennwch at y Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG
Dogfennaeth Ymgynghori
- Dogfen Ymgynghori (PDF, 1 MB)
- Dogfen Ymgynghori - Fersiwn i blant (PDF, 305 KB)
- Dogfen Ymgynghori - Pobl Ifanc (PDF, 803 KB)
- Asesiadau Cydraddoldeb Drafft ac Effaith ar y Gymuned (PDF, 692 KB)
- Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad - fersiwn Microsoft Word (Word doc, 40 KB)
Mae copïau papur o'r ddogfennaeth ymgynghori ar gael drwy gysylltu â'r Tîm Trawsnewid Addysg gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Cysylltiadau
Eich sylwadau am ein tudalennau
