Cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gynlluniau mawr trawsnewid ysgolion ym Mhowys
27 Mawrth 2026
Ddydd Iau, 26 Mawrth, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru Achos Amlinellol Strategol Cyngor Sir Powys ar gyfer trawsnewid Ysgol Calon Cymru - gan gynnwys adeilad ysgol uwchradd newydd yn Llandrindod ac ailfodelu campws Llanfair-ym-Muallt ar gyfer disgyblion oedran cynradd - yn ogystal ag Achos Busnes Amlinellol diwygiedig y cyngor ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.
Mae'r cymeradwyaethau hyn yn nodi cerrig milltir pwysig yn y ddau gynllun ac yn caniatáu i waith manwl fynd rhagddo.
Ar gyfer Ysgol Calon Cymru, datblygwyd dyluniadau cychwynnol i ailfodelu campws Llanfair-ym-Muallt, a disgwylir proses dendro ar gyfer contractwr yn ddiweddarach eleni. Mae caffael hefyd ar y gweill i benodi contractwr dylunio ac adeiladu ar gyfer yr adeilad ysgol uwchradd newydd arfaethedig yn Llandrindod.
Unwaith y bydd yr adeilad newydd wedi'i gwblhau, bydd Ysgol Calon Cymru yn gweithredu o safle Llandrindod yn unig fel ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.
Yr Achos Busnes Amlinellol cymeradwy ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen yw'r ail o'r tri achos busnes sy'n ofynnol fel rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ysgol bob‑oed, sy'n gweithredu ar hyn o bryd ar draws dau safle ac sy'n symud ar hyd y continwwm i ddod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, nawr yn symud ymlaen i'r cam caffael. Mae contractwyr eisoes wedi cael eu gwahodd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb yn y prosiect, a fydd yn cael ei ddilyn gan ymarfer tendr llawn yn nhymor yr haf.
Dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Mae cymeradwyo'r achosion busnes allweddol hyn yn rhoi momentwm gwirioneddol i ddau brosiect addysg uchelgeisiol a thrawsnewidiol ym Mhowys.
"Bydd y ddau ddatblygiad yn darparu cyfleusterau modern, ysbrydoledig sy'n diwallu anghenion ein dysgwyr a'n cymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn falch o weld y prosiectau hyn yn symud i'w cam nesaf ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid i'w gwneud yn realiti."
I gael gwybod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae rhagor o wybodaeth am Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ar gael yn Trawsnewid Addysg
