Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gynlluniau mawr trawsnewid ysgolion ym Mhowys

Image of hands drawing and pointing on engineering plans with two hard hats in the background

27 Mawrth 2026

Image of hands drawing and pointing on engineering plans with two hard hats in the background
Mae dau brosiect mawr trawsnewid ysgolion ym Mhowys wedi cymryd cam sylweddol ymlaen ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo achosion busnes allweddol, gan baratoi'r ffordd ar gyfer y camau nesaf o ddylunio, cynllunio a chaffael.

Ddydd Iau, 26 Mawrth, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru Achos Amlinellol Strategol Cyngor Sir Powys ar gyfer trawsnewid Ysgol Calon Cymru - gan gynnwys adeilad ysgol uwchradd newydd yn Llandrindod ac ailfodelu campws Llanfair-ym-Muallt ar gyfer disgyblion oedran cynradd - yn ogystal ag Achos Busnes Amlinellol diwygiedig y cyngor ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Mae'r cymeradwyaethau hyn yn nodi cerrig milltir pwysig yn y ddau gynllun ac yn caniatáu i waith manwl fynd rhagddo.

Ar gyfer Ysgol Calon Cymru, datblygwyd dyluniadau cychwynnol i ailfodelu campws Llanfair-ym-Muallt, a disgwylir proses dendro ar gyfer contractwr yn ddiweddarach eleni. Mae caffael hefyd ar y gweill i benodi contractwr dylunio ac adeiladu ar gyfer yr adeilad ysgol uwchradd newydd arfaethedig yn Llandrindod.

Unwaith y bydd yr adeilad newydd wedi'i gwblhau, bydd Ysgol Calon Cymru yn gweithredu o safle Llandrindod yn unig fel ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.

Yr Achos Busnes Amlinellol cymeradwy ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen yw'r ail o'r tri achos busnes sy'n ofynnol fel rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ysgol bob‑oed, sy'n gweithredu ar hyn o bryd ar draws dau safle ac sy'n symud ar hyd y continwwm i ddod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, nawr yn symud ymlaen i'r cam caffael.  Mae contractwyr eisoes wedi cael eu gwahodd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb yn y prosiect, a fydd yn cael ei ddilyn gan ymarfer tendr llawn yn nhymor yr haf.

Dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Mae cymeradwyo'r achosion busnes allweddol hyn yn rhoi momentwm gwirioneddol i ddau brosiect addysg uchelgeisiol a thrawsnewidiol ym Mhowys.

"Bydd y ddau ddatblygiad yn darparu cyfleusterau modern, ysbrydoledig sy'n diwallu anghenion ein dysgwyr a'n cymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn falch o weld y prosiectau hyn yn symud i'w cam nesaf ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid i'w gwneud yn realiti."

I gael gwybod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Addysg Cyfrwng Cymraeg

Mae rhagor o wybodaeth am Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ar gael yn Trawsnewid Addysg

 

Rhannwch y dudalen hon