Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hawliau Tramwy: Camfeydd, gatiau, pontydd a chylfatau

Camfeydd a gatiau ar lwybrau troed a llwybrau ceffyl

Y perchennog tir sy'n gyfrifol am wneud yn siwr bod unrhyw gamfeydd a gatiau yn cael eu cadw mewn cyflwr da.  Mae gennym ddyletswydd i wneud yn siwr bod y perchnogion tir yn gwneud hyn ac i gynnig grant o 25% tuag at unrhyw waith trwsio neu gatiau a chamfeydd newydd.

Mae gennym bŵer dewisol i estyn y grant hwn ac fe fydd fel arfer yn darparu'r giât neu gamfa heb unrhyw gost i'r tirfeddiannwr.  Yn ôl yr egwyddor 'lleiaf rhwystrol'  byddem ond yn darparu deunydd ar gyfer camfa, ond efallai gallwn gynnig mwy o gymorth i osod giât.

Os yw deiliaid y tir am osod rhagor o gamfeydd neu gatiau ar lwybrau troed neu lwybrau ceffyl, mae'n rhaid iddyn nhw anfon cais atom yn ysgrifenedig i ofyn caniatad.  Dim ond gatiau newydd gallwn eu caniatau sydd eu hangen i reoli stoc ar hyd llwybrau troed neu lwybrau ceffylau, nid camfeydd.  Ni ellir gosod camfeydd a gatiau ychwanegol ar 'gilffyrdd cyfyngedig' nac ychwaith ar hyd 'cilffyrdd sydd ar agor i bob traffig'.

 

Pontydd a chylfatau

Rydym yn rhannu'r cyfrifoldeb am drwsio a chynnal a chadw pontydd a chylfatiau gyda'r perchnogion tir, a gall y cyfrifoldebau hynny fod yn wahanol ym mhob achos.  Rydym yn gyfrifol am y mwyafrif o bomprennau, ond pan fydd llwybr troed cyhoeddus neu lwybr ceffyl yn croesi pont gyda hawliau cerbydau preifat, bydd y cyfrifoldeb o gynnal a chadw'r bont i ganiatau cerbydau arni yn  debygol o fod yn gyfrifoldeb perchennog y tir.  Efallai byddwn yn cytuno i rannu'r cyfrifoldeb ar gyfer cynnal a chadw mewn rhai achosion.

Yr awdurdod rheilffyrdd sy'n gyfrifol am strwythur mwyafrif y pomprennau dros y rheilffyrdd, a Dyfrffyrdd Prydain sy'n gyfrifol am strwythur yr holl bontydd dros y rhwydwaith camlesi.  Rydym ni'n gyfrifol am wyneb y llwybrau sydd dros y pontydd hyn.

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma