Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Hawliau tramwy cyhoeddus sydd ar gau dros dro ym Mhowys

Ceir hyd i wybodaeth am y rhan fwyaf o drefniadau cau ein hawliau tramwy cyhoeddus ar ein tudalen Facebook erbyn hyn; gweler https://www.facebook.com/PowysHighwaysTransportRecycling/

 

Manylion y Llwybr: Llwybr troed 114, Fron Berriw

Llwybr yn cau: 4 Hydref 2024

Gorchymyn yn dod i ben: 4 Hydref 2026

Rheswm: Pont beryglus. Llwybr troed 114, Fron Berriw (PDF, 615 KB) Rhybudd Brys, Llwybr Troed 114, Aberriw Gwaharddiad Dros Dro i Gerddwyr (PDF, 112 KB)

 

Manylion y Llwybr: Cilffordd yn agored i bob traffig LC296 (Monks Trod) Rhaeadr Gwy. Ar gau i Gerbydau Modur a Cherbydau a Dynnir gan Geffylau o Garn Ricet (pwynt A) yng nghyfeirnod grid OS SN 871,709 am oddeutu 6km tuag at y ffin sirol gyda Cheredigion yn Afon Claerwen (pwynt B) yng nghyfeirnod Grid OS SN 823,682. Hysbysiad o Estyniad - Bydd Cilffordd LC296 (Llwybr y Mynaich) yn cau dros dro (PDF, 166 KB)

Caniateir mynediad i gerbydau modur i gilffordd LC296 o Garn Ricet (pwynt A) yng nghyfeirnod grid SN871709 tuag at y ffin sirol gyda Cheredigion yn Afon Claerwen (pwynt B) yng nghyfeirnod Grid OS SN823682 am hyd at 3 (tri) o ddyddiau penodedig o'r 1 Medi 2022 ar gyfer hyd y Gorchymyn. Bydd y rhain yn gyfuniad o ddyddiau caniatâd penodedig sy'n cael eu trefnu a'u goruchwylio gan y Cyngor Sir; a digwyddiadau a gynhelir dan Reoliad 5(c) Rheoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) 1969 (a adwaenir hefyd fel 'Rali Diogelwch Ffyrdd'), trwy drefniant o flaen llaw gyda'r Cyngor. Bydd dyddiau a ganiateir ac a drefnir gan y Cyngor yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor, trwy gyfryngau cymdeithasol a thrwy hysbysu aelodau Grŵp Defnyddwyr Cilffyrdd Powys. Bydd amodau yn gymwys i'w defnyddio gan feiciau modur ar y dyddiadau hyn, y mae'r manylion wedi'u dynodi yn y Gorchymyn ac y gellir eu darparu ar gais.  

Dyddiad Dechrau Cau'r Gilffordd: 1 Medi 2023

Gorchymyn yn Dod i Ben: 1 Medi 2026

Rheswm: Oherwydd dirywiad yng nghyflwr wyneb y gilffordd 

Lawr lwytho map (PDF, 3 MB)

 

Manylion y Llwybr: Llwybr ceffyl 235/71, Llanidloes Allanol

Llwybr yn cau: 27 Awst 2025

Gorchymyn yn dod i ben: 1 Hydref 2026

Rheswm: Pont beryglus.

Lawr lwytho map (PDF, 1 MB) Gwaharddiad Dros Dro i Gerddwyr, Marchogion a Beicwyr - Llwybr ceffyl 235/71, Llanidloes Allanol (PDF, 134 KB)
 

Manylion y Llwybr: Llwybrau ceffylau 136, 137 ac 137(A), Llanidloes Allanol)

Llwybr yn cau: 5 Medi 2025

Gorchymyn yn dod i ben: 4 Medi 2026

Rheswm:  Pont wedi'i difrodi.

Lawr lwytho map (PDF, 2 MB) Gwaharddiad Dros Dro i gerddwyr, beicwyr a marchogion (PDF, 135 KB)
 

Manylion y LlwybrLlwybr Troed 106, Llanbadarn Fawr

Llwybr yn cau: 11 Ebrill 2024

Gorchymyn yn dod i ben: 10 Hydref 2026

Rheswm: Pont wedi'i difrodi.

Lawr lwytho map (PDF, 1 MB) Gwaharddiad Dros Dro i Gerddwyr - Llwybr Troed 106, Llanbadarn Fawr (PDF, 134 KB)

Rhannwch y dudalen hon