Ardrethi Busnes: Gostyngiad ar gyfer Meddiannu Eiddo'n Rhannol (Adran 44a)
- Math o Ostyngiad: Gostyngiad ar gyfer Meddiannu Eiddo'n Rhannol
- Dyfarniad: Bydd yn dibynnu ar y swm ardystiedig a gadarnhawyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Beth yw Gostyngiad Adran 44a?
Gall Cynghorau roi gostyngiad trethi ar gyfer eiddo sy'n rhannol wag am gyfnod byr o dan adran 44a Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae'r gostyngiad hwn yn ddewisol. Os caiff ei ganiatáu, mae'r Asiantaeth Swyddfa Brisio yn cyhoeddi tystysgrif sy'n dangos y gwerth dosrannedig. Rhaid i'r cyngor benderfynu rhoi gostyngiad cyn gofyn am y dystysgrif, gan fod y 'gwerth meddiannu' ardystiedig yn dod yn werth ardrethol swyddogol o dan y Ddeddf.
Gall unrhyw fusnes wneud cais os yw rhan o'i eiddo heb ei feddiannu am gyfnod byr.
Gall unrhyw fusnes wneud cais am Ostyngiad ar gyfer Meddiannu Eiddo'n Rhannol os yw rhan o eiddo heb ei feddiannu am 'gyfnod byr o amser'. Wrth arfer disgresiwn, rhaid i'r Cyngor gymhwyso'r rheol gyffredinol bod person sy'n meddiannu rhan o eiddo yn cael ei ystyried i fod yn meddiannu'r holl eiddo. Nid yw'n bwriad, oherwydd nad yw rhan o eiddo yn cael ei ddefnyddio, y dylid ei dynnu allan o gael ei drethi. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried pan fo'r eiddo yn rhannol wag oherwydd y canlynol:
A) Meddiannaeth lawn yn cael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod o amser.
B) Gwacau'r eiddo yn digwydd mewn camau dros gyfnod.
C) Meddiannaeth dros dro, er enghraifft oherwydd gwaith adeiladu neu adnewyddu, difrod tân neu debyg.
Pan fo anawsterau ymarferol wrth feddiannu neu wagio eiddo mewn un gweithrediad, neu pan fydd adeilad neu safle gweithgynhyrchu yn ddiangen dros dro, gallai fod yn rhesymol dyfarnu gostyngiad ardrethi. Mae Gostyngiad ar gyfer Meddiannu Eiddo'n Rhannol bellach wedi'i gyfyngu i 3 mis ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau a 6 mis ar gyfer eiddo diwydiannol oherwydd cyflwyno'r newidiadau Rhyddhad Eiddo Gwag mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Bydd dyddiad dechrau'r gostynigad Adran 44A dyddiad y cais cychwynnol fel arfer, neu os nad yw hyn yn glir, dyddiad yr ymweliad gan arolygydd ardrethi busnes
Meini prawf a'r broses ymgeisio
- Rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig i'r cyngor
- Rhaid darparu cynllun llawr sy'n dangos yr ardaloedd sy'n cael eu meddiannu a'r rhai sy'n wag
- Mae'r rhwymedigaeth i dalu eich ardrethi busnes yn parhau tra bod eich cais yn cael ei ystyried
- Bydd arolygydd ardrethi busnes yn ymweld â'r safle i wirio nad yw'r ardal ardystiedig heb ei feddiannu yn cael ei defnyddio
Sylwer: Ni fydd unrhyw ostyngiad ôl-weithredol pan wneir cais ar ôl i'r eiddo fynd yn ôl i gael ei ddefnyddio'n llawn neu i fod yn gwbl wag.
Bydd cyfnod y gostyngiad yn dod i ben, yn effeithiol o ddyddiad un neu fwy o'r canlynol:
- Newid ym maint y meddiannaeth rhannol
- Diwedd y cyfnod ardrethi y mae'r dosraniad yn ymwneud ag ef
- Dechrau cyfnod newydd o ostyngiad o dan dystysgrif newydd; neu
- Mae'r hereditament yn dod yn gwbl gwag/wedi'i feddiannu'n llawn
Mae dyletswydd ar y talwr ardrethi i roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau o fewn 60 diwrnod - gallwch wneud hyn drwy Ardrethi Busnes: Rhoi gwybod i ni am newid i'ch Busnes - Cyngor Sir Powys
Yr hawl i apelio
Os yw'ch cais yn aflwyddiannus a'ch bod yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad, cyflwynwch eich apêl yn ysgrifenedig i'r cyngor o fewn mis calendr o ddyddiad y penderfyniad
Cysylltiadau
Y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig. Ein nod yw cael digon o staff ar gael yn ystod yr oriau hyn i helpu i wella'r amser y mae'n cymryd i ateb galwadau.Eich sylwadau am ein tudalennau
