Toglo gwelededd dewislen symudol

Gostyngiad Trosiannol Ebrill 2017 - Mawrth 2020

Yn dilyn y ailbrisiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o drethi annomestig yn 2017, bydd rhyddhad ardrethi trosiannol ar gael i gynorthwyo trethdalwyr y bydd yr ailbrisiad yn effeithio ar eu cymwyster ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychain (SBRR).

Bydd y cynllun rhyddhad trosiannol ync ael ei gyflwyno i gynorthwyo trethdalwyr sy'n derbyn SBRR ar 31 Mawrth 2017 sy'n gweld lleihad yng nghanran y SBRR y mae ganddynt hawl iddo ar  1  Ebrill 2017, oherwydd y cynnydd yn eu gwerth trethadwy yn dilyn yr ailbrisiad.

Bydd yr SBRR yn cael ei ddefnyddio cyn y rhyddhad trosiannol Bydd y rhyddhad trosiannol yn gweithio trwy gyflwyno unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd ariannol yn raddol dros gyfnod o 3 blynedd, gan ddilyn y canrannau isod:

  • 25% o'r cynnydd atebolrwydd ym mlwyddyn 1,
  • 50% ym mlwyddyn 2
  • 75% ym mlwyddyn 3

 

Y trethdalwyr cymwys yw'r rheiny:

  • Sy'n symud o SBRR llawn i SBRR rhannol
  • Sy'n symud o SBRR i ddim SBRR
  • Sy'n symud o SBRR rhannol i ddim SBRR
  • Sy'n aros o fewn SBRR rhannol, ond yn gweld cynnydd yn y gwerth trethadwy