Treth y Cyngor: Disgownt a gostyngiadau (pobl)
Treth y Cyngor: Help i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion
Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i oedolyn sy'n fyfyriwr, yn brentis neu'n hyfforddai dalu Treth y Cyngor. Os yw hynny'n golygu nad oes ond un oedolyn cymwys yn y cartref, mae'n bosibl y bydd yr oedolyn hwnnw'n gymwys i gael gostyngiad o 25%.
Myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant
Yn ôl y diffiniad, mae myfyriwr yn:
- Rhywun sydd wedi cofrestru ar gwrs addysg amser llawn. Mae'n rhaid i'r cwrs bara am flwyddyn o leiaf, a rhaid i'r myfyriwr fynychu'r cwrs am o leiaf 24 wythnos o'r flwyddyn ac astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos.
- Rhywun dan 20 sydd ar gwrs sy'n para am o leiaf 3 mis calendr ac sy'n astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos. Rhaid i'r cwrs beidio â bod yn gwrs addysg uwch. Nid yw dosbarthiadau nos na chyrsiau gohebu yn gymwys.
Prentisiaid
I fod yn gymwys, rhaid i brentis fod yn ymgymryd â rhaglen o hyfforddiant a fydd yn arwain at gymhwyster wedi'i achredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Awdurdod Cymwysterau a'r Cwricwlwm. Rhaid i'r cyflog a/neu'r lwfans a dderbynnir beidio â bod yn fwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol sy'n berthnasol i brentisiaid o dan 19 oed neu 19 oed neu'n hŷn ym mlwyddyn gyntaf eu/eich prentisiaeth. Os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n gymwys i gael y gostyngiad hwn, cwblhewch y manylion dros y dudalen a'u dychwelyd i'r Adran refeniw.
Hyfforddai Ifanc / Hyfforddai Dewis
Bydd diystyriad yn cael ei ddyfarnu i Hyfforddeion Ifanc dan 25 sy'n cael ei hyfforddi dan drefniadau Deddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.
Ffurflenni cais
Dywedwch wrthym pan fydd oedolyn yn eich cartref chi yn dod yn fyfyriwr Citizen Access Revenues
