Treth y Cyngor: Disgownt a gostyngiadau (pobl)
Treth y Cyngor: Help i ofalwyr
Os ydych yn gofalu am rywun ac yn byw gyda nhw, mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor.
Gofalwyr
Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i ofalwr dalu Treth y Cyngor:
- os yw'n byw yn yr un eiddo â'r sawl maen nhw'n gofalu amdano,
- os yw'n darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos,
- os nad yw'n darparu gofal am gymar neu blentyn dan 18 oed.
Mae gan y sawl y mae'n gofalu amdano yr hawl i un o'r budd-daliadau gwladol canlynol:
- Lwfans Gweini
- Cyfradd uchaf neu ganol elfen ofal lwfans byw i'r anabl
- Y gyfradd pensiwn i'r anabl gyda'r cynnydd priodol
- Cynnydd yn y lwfans gweini cyson
- Cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Bersonol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog dan amodau'r Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn.
Gweithwyr Gofal
Efallai na fydd yn rhaid i weithiwr gofal dalu'r Dreth Gyngor os ydynt wedi'u cyflogi neu'n darparu cymorth (neu'r ddau) i unigolyn arall sydd â hawl i un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans gweini cyfradd uwch
- Elfen gofal o Lwfans Byw i'r Anabl sy'n daladwy ar y gyfradd uchaf neu'r gyfradd ganol.
- Cynnydd yng nghyfradd eu pensiwn anabledd
- Lwfans gweini cyson
- Cyfradd safonol neu uwch elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth personol
- Taliad annibyniaeth y lluoedd arfog
Rhaid i'r gweithiwr gofal:
- breswylio yn yr un annedd â'r unigolyn y maent yn darparu gofal neu gymorth iddo (neu'r ddau)
- darparu gofal neu gymorth (neu'r ddau) am o leiaf 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd a
- darparu'r gofal neu'r cymorth hwnnw (neu'r ddau) i unigolyn nad yw'n ŵr/gwraig, partner sifil neu blentyn (neu lysblentyn) o dan 18 oed.
Ffurflen Gais
Os ydych chi wedi gadael eich eiddo'n wag (heb ei feddiannu) er mwyn gofalu am rywun, mae'n bosibl na fydd rhaid talu Treth y Cyngor ar yr eiddo hwn, cliciwch yma i weld a yw eich eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor.
