Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud Cais am Gludiant Ysgol

School Transport Image
 Os nad ydych yn byw ger yr ysgol, mae'n bosibl y bydd gan eich plant hawl i gludiant am ddim. Mae'r meini prawf yn amrywio yn ôl y math o ysgol, felly darllenwch y wybodaeth yn ofalus i weld a ydyn nhw'n gymwys ai peidio.

Ffurflen Gais am Gludiant Ysgol Ffurflen Gais am Gludiant Ysgol

Cludiant Ysgol Gynradd

I gael cludiant am ddim i'r ysgol gynradd, mae'n rhaid i'ch plentyn fyw o leiaf 2 filltir o'r ysgol agosaf, gan fesur yn ôl y pellter gerdded byrraf.  Fel arfer, mae'r cludiant yn cael ei gynnig dim ond i'r ysgol sydd fel arfer yn derbyn disgyblion o'r ardal maen nhw'n byw ynddi.

Nid yw cludiant cyswllt yn cael ei gynnig ond ar gyfer disgyblion ysgol gynradd sy'n gymwys ar gyfer cludiant am ddim ac sy'n byw o leiaf filltir o un o'r prif lwybrau cludiant ysgol.

Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais ar yr un pryd â'r Ffurflen Derbyn Disgybl i'r Ysgol Gynradd.

 

Cludiant Ysgol Uwchradd (hyd at Flwyddyn 11)

I gael cludiant i'r ysgol uwchradd, mae'n rhaid i'ch plentyn fyw o leiaf 3 milltir o'r ysgol agosaf, gan fesur yn ôl y pellter gerdded byrraf. Fel arfer, mae'r cludiant yn cael ei gynnig dim ond i'r ysgol sydd fel arfer yn derbyn disgyblion o'r ardal maen nhw'n byw ynddi.

Nid yw cludiant cyswllt yn cael ei gynnig ond ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd sy'n gymwys ar gyfer cludiant am ddim ac sy'n byw o leiaf 2 filltir o un o'r prif lwybrau cludiant ysgol.

Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais ar yr un pryd â'r Ffurflen Derbyn Disgybl i'r Ysgol Uwchradd.

 

ôl-16

Pan fydd disgybl yn gorffen Blwyddyn 11, bydd eu henwau'n cael eu tynnu oddi ar y rhestrau ar gyfer cludiant ysgol, ac os oes angen cludiant ysgol arnynt, mae'n rhaid iddynt wneud cais bob blwyddyn academaidd. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael ffurflen i'w llenwi. Os peidiwch â defnyddio'r cludiant ysgol, dylech ddweud wrth y Tîm Derbyniadau a Chludiant ar unwaith.

Gall myfyrwyr sy'n astudio mewn ail ysgol/coleg dan drefniadau cwricwlwm ar y cyd hefyd gael cludiant. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar wahân ar gyfer pob ysgol/coleg y byddwch yn astudio ynddi/ynddo.

 

Anghenion Addysgol Arbennig

I ddarpariaethau y tu allan i Bowys

Bydd cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n mynd i ysgolion arbennig y tu allan i'r sir. Bydd disgyblion preswyl mewn ysgol yn y siroedd cyfagos yn cael cludiant ar fore dydd Llun a phrynhawn dydd Gwener. Bydd disgyblion mewn ysgolion arbennig mewn siroedd pellach i ffwrdd yn cael cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar ddechrau a diwedd pob tymor, ac ar gyfer gwyliau hanner tymor.

Disgyblion â datganiadau mewn ysgolion prif-ffrwd

Nid yw datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn golygu bod gan ddisgybl hawl i gludiant ysgol oni bai eu bod yn teithio i ganolfan arbenigol yn yr ysgol ac yn byw yn bellach i ffwrdd na'r lleiafswm pellter o'r ganolfan. Fel arall, rhaid i'r disgyblion gyflawni'r un meini prawf i fod a hawl i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol â disgyblion nad oes ganddynt ddatganiad. 

 

Cod Diogelwch

Rhaid i bob disgybl sy'n defnyddio cludiant ysgol ufuddhau i'r rheolau diogelwch. Mae rhestr o'r rhain ar y ffurflen gais, a bydd copi o'r cod diogelwch yn cael ei anfon atoch gyda'ch tocyn teithio. 

 

Mae gennych hawl i apelio os na fyddwn yn penderfynu dyfarnu ddarparu cludiant ysgol am ddim.

 

Tywydd garw

Yn nhywydd garw'r gaeaf ac mewn argyfwng, mae'n bosibl y bydd rhaid canslo cludiant ysgol a/neu fe allai ysgolion gau'n gynnar. Dylech fod yn ymwybodol o hyn, ac oes penderfynwch fynd â'ch plant i'r ysgol mewn tywydd garw, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi fynd â nhw adref.

Darganfod os yw ysgol ar agor neu ar gau gan ddefnyddio ein System Ysgolion ar Gau.

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma

 


​​​​​