Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais?

Dyrennir garejys y Cyngor yn ôl y drefn flaenoriaeth ganlynol:

Rydych yn Flaenoriaeth 1 os ydych:

  • yn byw ar y stad lle mae'r garej ac
  • nad ydych yn rhentu garej gan y Cyngor yn barod ac
  • os ydych yn denantiaid i Gyngor Sir Powys bod gennych gyfrif rhent clir.

Rydych yn Flaenoriaeth 2 os ydych:

  • eisoes yn rhentu garej gan y Cyngor ac nad oes gennych unrhyw ddyledion ar unrhyw gyfrif rhent a/neu
  • nad ydych yn byw ar y stad lle mae'r garej.

Lle mae rhestr aros yn weithredol, rhaid cyfyngu pob cartref i ddim mwy na dwy garej.

Bydd y Cyngor bob amser yn rhoi ystyriaeth i ymgeiswyr Blaenoriaeth 1 ar y rhestr aros ar gyfer y stad/bloc lle mae'r garej wag wedi ymddangos.

Lle mae mwy nag un ymgeisydd Blaenoriaeth 1 ar y rhestr aros, bydd y garej yn cael ei chynnig yn gyntaf i'r ymgeisydd sydd wedi treulio'r amser hiraf ar y rhestr aros ac yna i'r ymgeisydd hiraf nesaf ar y rhestr hyd nes y canfyddir tenant ar gyfer y garej.

Pan nad oes unrhyw ymgeiswyr Blaenoriaeth 1 ar y rhestr aros, neu fod y garej wedi'i gwrthod gan bob ymgeisydd Blaenoriaeth 1, neu nad oes unrhyw ymgeiswyr Blaenoriaeth 1 cymwys ar y rhestr, yna:  Bydd y Cyngor yn ystyried ymgeiswyr Blaenoriaeth 2 fel y disgrifir ym mharagraff 1, yn nhrefn y dyddiad y maent yn ymddangos ar y rhestr aros.

Byddwn yn eich ffonio i ganfod a hoffech dderbyn cynnig o garej. Yna byddwn yn ysgrifennu cynnig ffurfiol o denantiaeth, a fydd yn dechrau unwaith y bydd y garej ar gael.

Os na allwn gysylltu â chi dros y ffôn, byddwn yn anfon cynnig anffurfiol ysgrifenedig atoch yn gofyn i chi ymateb o fewn 14 diwrnod.

Os byddwch yn gwrthod mwy na dau gynnig o denantiaeth ar y stad/bloc o'ch dewis, bydd eich cais yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros.

Os na ellir dod o hyd i denant oddi ar y rhestr aros, bydd y Cyngor yn hysbysebu'r garej wag.