Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais?
Dyrennir garejys y Cyngor yn ôl y drefn flaenoriaeth ganlynol:
Rydych yn Flaenoriaeth 1 os ydych:
- yn byw ar y stad lle mae'r garej ac
- nad ydych yn rhentu garej gan y Cyngor yn barod ac
- os ydych yn denantiaid i Gyngor Sir Powys bod gennych gyfrif rhent clir.
Rydych yn Flaenoriaeth 2 os ydych:
- eisoes yn rhentu garej gan y Cyngor ac nad oes gennych unrhyw ddyledion ar unrhyw gyfrif rhent a/neu
- nad ydych yn byw ar y stad lle mae'r garej.
Lle mae rhestr aros yn weithredol, rhaid cyfyngu pob cartref i ddim mwy na dwy garej.
Bydd y Cyngor bob amser yn rhoi ystyriaeth i ymgeiswyr Blaenoriaeth 1 ar y rhestr aros ar gyfer y stad/bloc lle mae'r garej wag wedi ymddangos.
Lle mae mwy nag un ymgeisydd Blaenoriaeth 1 ar y rhestr aros, bydd y garej yn cael ei chynnig yn gyntaf i'r ymgeisydd sydd wedi treulio'r amser hiraf ar y rhestr aros ac yna i'r ymgeisydd hiraf nesaf ar y rhestr hyd nes y canfyddir tenant ar gyfer y garej.
Pan nad oes unrhyw ymgeiswyr Blaenoriaeth 1 ar y rhestr aros, neu fod y garej wedi'i gwrthod gan bob ymgeisydd Blaenoriaeth 1, neu nad oes unrhyw ymgeiswyr Blaenoriaeth 1 cymwys ar y rhestr, yna: Bydd y Cyngor yn ystyried ymgeiswyr Blaenoriaeth 2 fel y disgrifir ym mharagraff 1, yn nhrefn y dyddiad y maent yn ymddangos ar y rhestr aros.
Byddwn yn eich ffonio i ganfod a hoffech dderbyn cynnig o garej. Yna byddwn yn ysgrifennu cynnig ffurfiol o denantiaeth, a fydd yn dechrau unwaith y bydd y garej ar gael.
Os na allwn gysylltu â chi dros y ffôn, byddwn yn anfon cynnig anffurfiol ysgrifenedig atoch yn gofyn i chi ymateb o fewn 14 diwrnod.
Os byddwch yn gwrthod mwy na dau gynnig o denantiaeth ar y stad/bloc o'ch dewis, bydd eich cais yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros.
Os na ellir dod o hyd i denant oddi ar y rhestr aros, bydd y Cyngor yn hysbysebu'r garej wag.