Amodau ar gyfer gosod garejys y cyngor
Byddwn yn cynnig tenantiaeth ar gyfer y garej ar yr amodau canlynol:
- Bod y garej yn cael ei defnyddio ar gyfer storio unrhyw gerbyd sydd o'r maint cywir i fynd i mewn i'r garej, megis ceir, beiciau modur, beiciau, cychod a cherbydau masnachol bychain.
- Gellir defnyddio'r garej ar gyfer storio eitemau eraill megis cyfarpar ac offer garddio ond ni allwch gadw deunyddiau fflamadwy, gwenwynau neu gemegau.
- Ni ellir defnyddio'r garej ar gyfer dibenion busnes.
- Ni ellir is-osod y garej i unrhyw un arall.
- Os yw'r ymgeisydd yn denant i'r cyngor, neu os yw'r ymgeisydd yn rhentu garej oddi wrth y cyngor yn barod, rhaid bod y rhent wedi'i dalu'n llawn.
Weithiau, byddwn yn dod heibio i weld os yw'r garejys yn cael eu defnyddio ar gyfer storio cerbydau. Os nad ydych yn cadw cerbyd yn y garej, byddwn yn rhoi rhybudd i chi gan ofyn i chi am feddiant gwag ac i ddychwelyd yr holl allweddi i swyddfa'r Cyngor o fewn 28 diwrnod.