Toglo gwelededd dewislen symudol

Ein cyfrifoldebau ni wrth wneud gwaith trwsio

Os ydych yn denant i'r cyngor, ein dyletswydd ni yw cadw strwythur eich cartref, y tu allan a'r rhannau cymunedol mewn cyflwr da.  Rydym hefyd yn gyfrifol am unrhyw gyfarpar sy'n cael ei ddarparu gennym ar gyfer y system wresogi, dwr poeth neu lanweithdra, ac ar gyfer eich cyflenwadau nwy, dwr a thrydan.
Image of a stepladder

Mae ein cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • toeon, waliau a lloriau
  • mannau cyffredin fel grisiau, lifftiau a choridorau
  • ffenestri a drysau allanol (yn cynnwys fframiau, trothwyon, ac unrhyw osodiadau)
  • cafnau, pibellau glaw, pibellau gwastraff a draeniau (ond nid yw'n cynnwys glanhau draeniau wedi'u blocio)
  • simneiau a ffliwiau yn cynnwys glanhau simneiau'n flynyddol 
  • waliau mewnol, fframiau drysau, lloriau a nenfydau (heb gynnwys paentio ac addurno mewnol)
  • gwaith plastro mewnol (heb gynnwys craciau bychain a staeniau)
  • systemau a chyfarpar gwresogi sydd wedi'u gosod gennym ni
  • canfodyddion mwg a charbon monocsid
  • pibellau nwy a weiars trydan
  • sinciau, basnau, baddonau a thoiledau
  • canllawiau grisiau a rheiliau llaw
  • llwybrau, grisiau a ffens terfyn
  • garejys

Os oes rhaid i ni wneud gwaith trwsio oherwydd difrod neu esgeulustra bwriadol, ac nid oherwydd traul resymol, bydd yn rhaid i chi dalu am y gwaith.

Apwyntiadau am waith trwsio

Rydym yn gweithio i system Trwsio drwy Apwyntiad.  Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud y gwaith ar amser sy'n gyfleus i chi, rhwng 8 y bore a 4 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Pan fyddwch yn gofyn am waith trwsio, byddwn yn gofyn i chi pryd hoffech chi i ni ddod.  Fe wnawn drefnu apwyntiad i ddod ar amser a dyddiad y dywedwch chi.  Lle'n bosibl, rydym yn ceisio gorffen y gwaith yn ystod yr ymweliad cyntaf.  Mae'n bosibl y bydd angen galw eto os yw'r gwaith yn fwy cymhleth ac angen deunydd ychwanegol.  Os mai dyma'r achos, fe wnawn drefnu apwyntiad arall gyda chi.

Gwaith trwsio brys - o fewn 24 awr

Mae'r rhain yn waith trwsio angenrheidiol i osgoi perygl i'r rhai sy'n byw yno, neu ddifrod difrifol i'r eiddo.  Gallai gynnwys y prif bibellau'n gollwng, dim pŵer, diffygion difrifol i'r to, difrod o ganlyniad i fellt, storm neu lifogydd, toiledau wedi blocio neu dorri, pibelli carthion wedi torri.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau